Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bilidowcars

bilidowcars

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Ynys o graig a'i bilidowcars yn teyrnasu arni, y goleudy'n gannaidd, amlinell croes Dwynwen ar las y nen, gweddillion ei heglwys yn swatio yn y pant a bae bach perffaith oddi tanoch.

Fel y ciliai'r tonnau ymgodai'r creigiau'n ymgodai'r creigiau'n dduon i wahodd yr adar arnynt, piod y mor yn gwichian yn stwrllyd ar bilidowcars mud, llonydd, anodd iawn eu gweld heblaw pan drwsient eu plu neu ysgwyd adenydd cyn setlo drachefn ar eu harsyllfeydd.