Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bitw

bitw

Roedd ef wedi rhyfeddu mor bitw oedd y creadur.

Ar yr un llaw, clywir dadlau bod hunanoldeb ar gerdded trwy'r tir, a bod achos ambell streic yn anystyriol o bitw.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

Teimlwn yn gymysg fy meddwl ac ychydig yn ansicr wrth eistedd ymysg cynulleidfa bitw o ryw hanner cant yn theatr anferthol Elli gyda phawb yn gofyn yr un cwestiwn - "lle mae pawb d'wedwch?" Tybed oedd y gweddill yn gwybod rhywbeth nad oeddem ni'r ffyddlon rai yn ei wybod am y cynhyrchiad?

"O'i gymharu â rhai o'r symiau ar y rhestr cyfalaf, dyma swm bitw, bitw iawn," meddai'r Cung Huws, a ychwanegodd: "Dwi'n amau ers tro bod 'na gynllun gan y Swyddfa Gymreig, a gan Gwynedd hefyd, i sianelu arian mawr i ganolfan gwleidyddol poblogaidd sy'n cael eu gweld -- a hynny ar draul yr ardaloedd diwydiannol traddodiadol, lle byddai'r arian yn gwneud mwy o les.