Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

biwgl

biwgl

Dyma ddechrau arni o ddifrif rwan gan eu bod wedi colli llawer o amser tra oedd y creigwyr yn llnau'r graig; wedi rhoi rhyw saith modfedd o dwll ym mhob carreg a'i phowdro, rhaid disgwyl yn awr am i'r biwgl ganu eto, a dyma'r un drefn ag o'r blaen.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.