Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaendir

blaendir

Yn yr hanner cyntaf ei fam, Jane Gruffydd, sydd yn y blaendir.

Diffinir y cae yn y cefn mewn strociau tew cyllell balet, y blaendir ag ysgubiadau lletach a mwy fflat, ac yna ar gyfer yr awyr gwaith brwsh yn sgrwbio'r paent yn fflat.

Mae'r lliwiau'n rhan o gyfansoddiad gofodol y llun, glas clir yr awyr a melyn y das yn gwrthgyferbynnu â gwyrdd tywyll y blaendir.

Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.

Y tu draw i'r cae, ar ben yr allt y mae tŷ, ac er mai yn y pellter y mae, y mae'r sylw a'r manylder yn dal i gael ei roi i'r adeilad o'i gymharu a'r cae â'r ffens yn y blaendir, a hyn eto yn cadarnhau sylwadau Maredudd ei hun mai mewn adeiladau y mae ei ddiddordeb.

Tir gwyllt yw'r creigiau yn y blaendir.

Rhennir y llun yn dair rhan: yr awyr o amgylch y felin yn llenwi hanner y canfas, yna'r caeau llafur ar oleddf, a'r creigiau yn y blaendir a lôn yn troelli rhyngddynt.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Dim ond tri chyffyrddiad o baent a ddefnyddir i gyfleu'r ieir yn y blaendir a dim ond un llinell doredig ar letraws yw'r ystol sy'n pwyso ar un o'r teisi.

Un o'r lluniau mwyaf tirweddol yn yr arddangosfa yw Yr Allt lle mae cae yn y blaendir mewn gwyrdd golau a du, a ffens a weiran bigog yn rhedeg o flaen y llun i fyny'r ochr gydag ymyl y lôn.