Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaengar

blaengar

Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.

Mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithio'n agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

Yr oedd y ffrae hon braidd yn drist oherwydd yr oedd y teulu'n prysur ymsefydlu fel prif noddwyr y blaid brotestannaidd fwyaf blaengar yn Nyfed.

Gwrthododd llawer o'r dysgedigion mwyaf blaengar y syniad bod hanes yn amlygiad o gynllun mawreddog, a throesant yn ôl at yr olwg hiwmanistaidd ar hanes a oedd gan haneswyr Groeg a Rhufain.

Mae'r gwledydd mwyaf blaengar bellach yn buddsoddi'n drwm mewn ymchwil wyddonol sylfaenol, fel ernes ar gyfer datblygiadau posib yn y dyfodol.

Yr oedd y Calfiniaid ymhlith y teilwriaid yn aelodau ym Methesda, capel gweithgar, bywiog a blaengar y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug.

mae'r busnes wedi gwneud camau breision tuag at ymgorffori ymagweddau mwy blaengar i'w arlwy o wasanaethau, gan gynnwys penodi rheolwr datblygu cynnyrch newydd arbenigol i weithion agos gyda BBC Cymru mewn meysydd megis technoleg rithwir a llifo byw.

Mae penodiad o'r fath yn un blaengar a holl bwysig os ydym am ddiogelu buddiannau plant yn ein gwlad.

Yr hyn y gofynnwyd i mi ei wneud oedd llunio taith i'r de o Krako/ w i Zakopane ym mynyddoedd y Tatra, dewis cerddoriaeth addas a holi nifer o gyfansoddwyr blaenllaw a blaengar yr Academi Gerdd lle bu+m yn fyfyriwr, yn eu plith Penderecki, Stachowski, Buijarski, Nazar, Go/ recki a Meyer.

Ceir yn y ddwy yr un awydd i gyfuno'r brotest lenyddol esthetig a'r defnydd o gyfryngau barddonol blaengar, newydd.

Menter blaengar a phwysig yw'r strategaeth hon, a adwaenir wrth y term All Wales Strategy (AWS).

Ar sail datblygiadau arwyddocaol ac addysgu blaengar ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod y deng mlynedd diwethaf awgrymir y canlynol:

Yn y blynyddoedd enbyd hyn, yr unig ddihangfa i Brotestaniaid blaengar oedd ffoi am loches i ddinasoedd Protestannaidd y Cyfandir.

Rhaid i ddilysrwydd y data hyn gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y rhai mwyaf blaengar ym maes archaeoleg tir; h.y.

Yr oedd Bethesda'n arbennig fywiog a blaengar oherwydd fod yr Wyddgrug yn atynnu Cymry galluog i fyw ynddi, Cymry fel y Parch Owen Jones (Meudwy Môn), y Parch Roger Edwards, Andreas o Fôn ac eraill.

Rydym yn ymfalchio yn y ffaith ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â BBC Cymru a chredwn mai dim ond drwy gydweithio y bydd BBC Adnoddau, Cymru yn parhau i fod yn fusnes adnoddau cyfryngol llwyddiannus a blaengar.

Mae penodiad o'r fath yn un blaengar ac holl bwysig os ydym am ddiogelu buddianau plant yn ein gwlad.

Dyma a ddigwyddodd i awduron mwyaf blaengar y mudiad naturiolaidd, sef Ibsen, Strindberg a Huysmans.

Paul Davies oedd yr arlunydd gwleidyddol mwyaf blaengar yng Nghymru ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ac ymhlith yr artistiaid sydd ac a fu'n byw yma ef oedd y mwyaf gwreiddiol a radicalaidd ym mhob ffordd.

Mae'n arwyddocaol fod Ankst eu hunain yn awyddus i'w cymharu eu hunain â charfan o gwmni%au annibynnol Lloegr sydd yn y maes heddiw - cwmni%au fel Too Pure, ClawFirst a Rough Neck, sy'n rhyddhau 'miwsig blaengar' ac sy'n driw i'r ethos annibynnol.