Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaenllaw

blaenllaw

Wrth arwyddo Cytundeb Belffast (neu Gytundeb Gwener y Groglith) roedd prif bleidiau gwleidyddol y gogledd, a holl bobl Iwerddon trwy refferendwm ddiwedd mis Mai eleni, yn derbyn y lle blaenllaw a roddwyd i'r Wyddeleg yn y Cytundeb.

Ag yntau'n un o arweinwyr blaenllaw Prydain, sefydlodd Richard Hickox y City of London Sinfonia ym 1971 ac ef yw ei Chyfarwyddwr Cerddorol.

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Er mawr loes i Harri Gwynn ceryddwyd ef gan nifer o wþr blaenllaw y genedl am feddwl derbyn y fath ychwanegiad i'w gyflog a dywedwyd wrtho mai ei ddyletswydd oedd ad-dalu cyfran sylweddol ohono.

Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.

dau o'r prif siaradwyr oedd john bright a richard cobden dau o wy ^ r mwyaf blaenllaw lloegr a phleidwyr masnach rydd.

'Yr wyf yn cofio yn dda un prynhawn Sadwrn pai yn yr haf,' meddai, 'bod fy ewythr Dafydd Caeglas, yr hwn oedd yn ddyn effro a blaenllaw iawn gydag addysg yn yr ardal, yn sefyll yn nrws yr offis ac yn cynnig fod y gweithwyr yn talu ceiniog yn y bunt at roi ysgol i'r plant.

Roedd Derfel am beth amser yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr, ac yn aelod o gylch llenyddol blaenllaw a oedd yn cynnwys Ceiriog a Chreuddynfab.

Nid yn unig hynny, ond 'roedd Cian Ciaran o Super Furry Animals yn aelod blaenllaw o'r grwp, felly mae hi'n syndod mewn ffordd nad ydi Wwzz yn cael ei grybwyll yn amlach.

(Er mai barddoniaeth yw prif bwnc y papur, nid amhriodol fydd tynnu sylw at rai gweithiau rhyddiaeth hefyd, pan fo'r rheini yn dangos syniadau tebyg i'r rhai a geir yng ngweithiau'r beridd.) Cafodd beirdd y genhedlaeth honno eu haddysgu cyn i syniadau modern ynghylch addysg ddisodli'r clasuron o'u lle blaenllaw yn y rhan fwyaf o ysgolion y wlad.

Yr hyn y gofynnwyd i mi ei wneud oedd llunio taith i'r de o Krako/ w i Zakopane ym mynyddoedd y Tatra, dewis cerddoriaeth addas a holi nifer o gyfansoddwyr blaenllaw a blaengar yr Academi Gerdd lle bu+m yn fyfyriwr, yn eu plith Penderecki, Stachowski, Buijarski, Nazar, Go/ recki a Meyer.

Digwyddwn fod yn gyfrifol am gynnwys bwletin newyddion y diwrnod hwnnw, a rhoddais le blaenllaw i'r stori.

rhwng aelod blaenllaw o'n Plaid Genedlaethol ni a dysgawdwr mawr o wlad fechan sy'n enwog am ei hysgolion a'i dramâu, ei hymenyn a'i chig moch rhown arni'r enw Baconia'.

Academi gerdd y ddinas oedd, ac yw, un o'r rhai pwysicaf yn Ewrop gyfan, gydag unarddeg o gyfansoddwyr blaenllaw ar y staff heddiw.

Wedi'r cwbl, penllanw llafur Gwyn fyddai'r perfformiad, a chystal i mi weld y bobl enwog a oedd i gymryd y rhannau blaenllaw.

Clywais fod un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Ethiopia wedi cyfrannu i'r ddefod pan oedd yn bump oed, a chanfÉm, gyda braw, fod offrwm croenwyn yn cael ei ystyried yn arbennig o lwcus.

Hefyd mae nifer o swyddogion blaenllaw Awdurdod Datblygu Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru am eu hamheuon bod y Cynulliad yn ceisio tarfu ar gyfrifoldebau a statws y corff.

Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.

Yn aml mae'r cwmnïau yma yn defnyddio meysydd awyr llai blaenllaw, er enghraifft hedfanodd yr athrawes i Prestwick ger Glasgow ac mae ffleit Ryanair i Baris yn glanio yn Beauvais sydd tua 80 km i'r gogledd o'r brifddinas.

Y mae ysgolheigion y Gymraeg wedi bod â lle blaenllaw mewn astudiaethau Arthuraidd erioed.

Bu hefyd dan yr ordd gan nifer o wþr blaenllaw'r genedl ynglŷn â'i gyflog ar ôl dwy flynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Trefnwyd cyfres o 'gigs' Cymraeg yn cynnwys rhai o'n grwpiau roc mwyaf blaenllaw a nifer o nosweithiau gwerin i'r oedolion ifainc hyn!

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

Yr oedd y frwydr hir yn dechrau troi o blaid y Cymry blaenllaw hynny a fu'n pwyso mor daer ar yr awdurdodau i gydnabod arwahanrwydd cenedlaethol y Cymry y tu fewn i gyfundrefn radio'r Deyrnas Unedig.

Derbyniai'r is-bwyllgor adroddiad gennyf yn rheolaidd ar y sefyllfa ariannol a rhoddwyd sylw blaenllaw bob tro i'r gronfa.

Clywais nifer yn holi ar ôl yr angladd, ble'r oedd rhai o wyr mwyaf blaenllaw'r genedl, oherwydd ni roddwyd gwr mwy nag ef yn naear Cymru yn y blynyddoedd diwethaf hyn.

Roedd wedi bod yn frwd o blaid yr SPD, hyd yn oed i'r graddau iddo ysgrifennu areithiau ar gyfer ei gwleidyddion, ynghyd ag, ymhlith eraill, Gudrun Ensslin a oedd yn ddiweddarach yn un o aelodau mwyaf blaenllaw mudiad treisgar yr RAF (Rote Armee Fraktion/Y Fyddin Goch).

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Ers ei sefydlu ym 1983, mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Corws Cymreig y BBC gynt, wedi ennill ei blwy'n eang yn un o'r corau cymysg blaenllaw yn y Deyrnas Gyfunol.

Aelod Blaenllaw o'r Blaid (yn obeithiol): Beth fuasech chi'n ddeud, Doctor, ydi diod genedlaethol Baconia?

Ond gwir arwyddocâd y penderfyniad hwnnw oedd ei fod yn dangos fel yr oedd y rhan fwyaf o aelodau'r Blaid yn ymwybod â'r traddodiad radicalaidd, er bod rhai o'r aelodau blaenllaw, wrth arllwys dwr brwnt eu hen ffydd ym mhleidiau Llundain, wedi arllwys y babi radicalaidd hefyd.