Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blaenor

blaenor

Mae cofnod ar gael sydd yn tystio i ffyddlondeb arbennig Hugh Evans, Ty'n y Gilfach, yn y capel hwn, pan nad oedd neb ond ef am gyfnod i gyflawni swydd blaenor.

Gwasanaetha eu mab hwythau, Huw Iorwerth Morris, fel blaenor yn yr Eglwys ar hyn o bryd.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Oherwydd fod ei gydwybod yn pigo, ymddiswyddodd Haydn o'i swydd fel blaenor.

Y fo, fel rheol, oedd y Pen Blaenor.

Ac nid oedd yna na gweinidog na blaenor.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.