Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blancedi

blancedi

Nhad wedyn yn trio codi'r blancedi efo'r llaw oedd yn dal y 'long johns', ia dyna'n union ddigwyddodd, fe ddisgynnodd y 'long johns' am ei draed, a nhad yn sefyll yng nghanol y 'stafell yn union fel daeth i'r byd.

'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.

Roedd y bobl fu'n brwydro dros gael eu gwladwriaeth eu hunain yn methu â chael blancedi hyd yn oed.

Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.

Mi oeddan ni ofn yn ein gwlau neithiwr, achos mi oedd 'na sŵn trana' yn bell, bell - a mi guddion ni'n penna' dan y blancedi.