Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blannu

blannu

Mi fydd hanner y mynydd yn cael ei blannu'n goed a'r hanner arall yn fagwrfa grugieir a ffesants.

Ffordd arall gwbl dderbyniol yw tyfu tomatos trwy ddefnyddio potiau meddal diwaelod gan blannu un planhigyn ym mhob potyn.

"Mi fydd raid i ni blannu reis toc ybn lle tatws." Roedd JR ar fin gwneud sylw am y tywydd ond aeth y ffarmwr rhagddo yn galonnog.

Fel rheol arferaf blannu tatws yn yr ardd allan yn ystod yr wythnos gyntaf neu ail o Fawrth ond nid oedd cyflwr y pridd yn ddigon sych eleni i ganiata/ u gwneud hynny felly bu ymarfer ymenydd (gwell ymadrodd na 'crafu pen') i geisio dull o ddod dros ben hynny.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Wrth blannu, mae'r patrwm troed aderyn yn un da i'w ddilyn er mwyn i'r planhigion gael digon o oleuni gan na fyddant yn tyfu yng nghysgod ei gilydd.

Does bosib na ddylem ni fod yn poeni mwy am bethau felly nag am blannu maip yn San Steffan.

Edrychai'n ddigon di-niwed, ond dywedwyd wrthym bod rhannau helaeth ohono wedi ei blannu â ffrwydron.

Ni cheir cymaint o olau wrth blannu'r planhigion gyferbyn â'i gilydd.

Dyma'r adeg i blannu planhigion ysgewyll Brwsel yn yr ardd agored gan adael tair troedfedd rhwng pob planhigyn a'r un gofod rhwng y rhesi.

Mae wrth ei fodd yn ei blannu ei hun 'wrth olwyn fawr felyn' car newydd Lleifior a'i yrru hyd 'heol fawr Henberth, â llygaid ambell un tlotach na phlant Lleifior yn syllu'n eiddigus ar ei ôl'.

Yn achos Ysgol Waterston, roedd yn ateb y broblem o ddiffyg lle i blannu ar safle ysgol fechan nad oedd ganddi ond iard chwarae fechan.

Y peth gwych ynglŷn â'r math yma o ardd yw ei bod yn hawdd ei chynnal a gellir ail-blannu pob darn bach yn ôl yr angen.

Trodd Mark yn erbyn Dyff a llwyddodd i'w anfon i'r carchar drwy blannu offer wedi ei ddwyn arno.

Gellir cwblhau'r gwaith o blannu'r basgedi hyn.

Yn St-Suliac, mae stori mai dant rhyw hen gawr yw un o'r meini hirion yno poerodd y cawr y dant o'i geg gyda'r fath nerth nes iddo blannu i mewn i'r ddaear.

Mae Eglwys Glenwood yn parhau i blannu, i dyfu ac i ddwyn ffrwyth.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Dyna ein gosod ni yn dwt yn ein safle cymdeithasol priodol, ebe Meg wrthi'i hun, gan blannu'r digwyddiad yn ddwfn yn ei chôf.

Yn ei bregeth 'Planu Coed', y dewiswyd ei theitl ar gyfer ei gasgliad o bregethau, pwysleisir i Abraham weithredu mewn ffydd a gobaith drwy blannu coed: 'Abraham, yn ei hen ddyddiau, yn planu coed, ac yntau yn ddim ond pererin yn y tir.....

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.

Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.