Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blastig

blastig

'Mynd a dweud wrth yr heddlu ydi'r peth callaf i'w wneud.' Lapiodd Alun y papur newydd yn barsel twt cyn ei roi yn y sach blastig a chlymu ei cheg yn dynn.

Coes bren, coes blastig, menyg rybyr, trombôn, gwybedyn marw a gwin danadl poethion: i gyd yr un peth yn y diwedd.

Efallai mai prinder graffiti Cymraeg a ysgogodd y Cyngor Celfyddydau i godi wal blastig mewn un Steddfod gan annog y bobl oedd ar y Maes i sgwennu eu negeseuon arni.

Roedd yr anghyfiawnder yn amlwg i'r bachgen ifanc, ac aeth ati i geisio gwneud ei fasg ei hunan gyda darn o blastig a chortyn.

Yr eiliad honno sylwodd fod sach blastig wen wedi ei gwthio i'r dorlan, rhwng gwreiddiau'r goeden a'r llwybr uwchben.

Y dyddiau hyn, defnyddir plastig yn aml yn lle metalau, gan nad yw ocsigen a dwr yn ymosod ar blastig.

'Reildro pan ddychwelais ato'n bryderus, sylwais fod ei ddysgl blastig a oedd yn dal arfau'r feddyginiaeth yn gwingo ar gledr fy llaw.