Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blawd

blawd

Byddai wrth ei fodd yn ei baratoi yn ofalus ac yn y diwedd ei rolio yn y blawd ceirch.

Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.

Byddai'n olwg ddigrif ar y ffroenau diamynedd wedi eu powdro â blawd.

Pan wthiai rhyw fuwch arall ei phen i'r mesur blawd cyn i chwi gael cyfle i'w wacau yn y preseb o'i blaen, fe chwarddech.

Daethpwyd o hyd i'r perthynas a daeth allan yn edrych fel Kentucky Minstrel tu chwithig allan gan fod ei wyneb yn glaerwyn efo'r blawd ac o gwmpas ei lygaid a'i weásau yn ddu.

Yr oedd hyn ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd.

Dydd Mawrth Crempog a 'ngheg i'n grimp amdani a ddim eto yn rhy dlawd i brynu blawd!

Gweithiai dwy ffactor eisoes fel lefain yn y blawd i newid y ddarpariaeth annigonol hon.

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Un o'r myfyrwyr yn cofio fod ganddo frawd mewn gwaith blawd ar y ffordd; rhaid galw yno i ysgwyd llaw a chael paned.

Cymysgedd dyfrllyd o olew, siwgr a blawd soya yw'r prif bryd.

Byddai arnoch chwant ei phwnio â'r mesur blawd ar ei phen llygodennaidd.

Gellid gwneud bara gyda'r mes neu'r rhisgl, drwy eu cymysgu â blawd i wneud bara oedd yn cynnal a chryfhau dyn ar ôl oerni a gwlybaniaeth y gaeaf.

Roeddwn i dan yr argraff fod newyn yn taro gwlad oedd heb fwyd i'w roi i'w phobl ond, ar strydoedd Mogadishu, roedd yna farchnadoedd yn gyforiog gan fwydydd o bob math; cig, blawd, bara, siwgwr, ffrwythau, llysiau, olew, losin hyd yn oed.