Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bleiddiaid

bleiddiaid

Pan wêl y bleiddiaid eraill eu harweinydd yn farw fe giliant allan o'th golwg ond gwyddost eu bod yn dal yno yn disgwyl i ti ddisgyn o'r goeden.

Oddi allan gellid clywed llef y bleiddiaid yn chwilio am ysglyfaeth yn yr eira a dôi sŵn ambell aderyn nos o gyfeiriad Llyn Llydaw a phegwn yr Wyddfa.

Roedd yr hen adroddiadau am ddynion a oedd yn ymddwyn fel bleiddiaid yn wir.

Ychydig yn uwch i fyny mae Camddwr neu Camau'r Bleiddiaid, bwa naturiol o graig yn pontio'r afon lle'r arferai'r bleiddiaid, yn ôl traddodiad, groesi'r afon o'r mynydd i glydwch y cymoedd pan oedd y tywydd yn arw.

Rwyt yn llwyddo i ddal dy afael ac yn y golau gwan gweli nad yw'r bleiddiaid i'w gweld yn unman.