Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blentyndod

blentyndod

Cafodd Rhian blentyndod digon cymysg yn y Deri Arms.

Er ei fod ef ei hun, fel aelod o deulu o Grynwyr, wedi treulio rhannau o'i blentyndod yn y naill gymuned a'r llall, mae'n gwybod am bobl a gyrhaeddodd eu deunaw oed cyn iddynt gyfarfod neb o'r 'ffydd arall'.

Hen arferiad yr ymdrech a lynodd wrtho o'i blentyndod.

Aeth a'i docyn aelodaeth i'w hen eglwys ym Methel, ond nid Bethel ei blentyndod a'i lencyndod mo'r pentref bellach ac y mae digon o dystiolaeth ar gael iddo ganfod hynny'n fuan.

Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.

Dywedodd ar sawl achlysur sut yr oedd cymeriadau byw ei blentyndod yn mynnu ail-fyw yn ei gof, fel y mynnai Gŵr Glangors-fach, ei ferched a'r cymeriadau eraill feddiannu ei ddychymyg.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.