Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blesio

blesio

Roedd hi wedi mynd i'w gwely yn weddol fuan, i blesio'i mam yn fwy na dim, ac wedi dechrau darllen un o'r llyfrau a gafodd yn y llyfrgell.

Yn y diwedd yr oedd ymlyniad Bedwyr wrth fethod ac wrth y gwir yn drech na'i awydd i blesio: ar y weiarles, dysgodd foddi pobl mewn dŵr cynnes, chwedl Tom Jones Llanuwchllyn.

Ond problem unrhyw ddiwylliant lleiafrifol yw ei bod yn straen ar adnoddau dynol ac ariannol gorfod darparu'r helaethrwydd defnyddiau sy'n angenrheidiol i blesio chwaeth amrywiol y gynulleidfa, ac na ellir chwaith fforddio troi unrhyw ffurf lenyddol i gyfeiriadau rhy esoterig ddeallusol ar draul ennyn diddordeb y mwyafrif (sydd ynddo'i hun yn lleiafrif!) Felly rhaid o hyd ennyn diddordeb yn y gair Cymraeg printiedig trwy gyfrwng pethau fel Cyfres y Fodrwy neu'r papurau bro, er bod y wasg argraffu'n anleu fwyfwy at bobl sy'n meddwl yn ystyriol erbyn hyn.

Cana o'r galon - y pethau hynny sy'n ei boeni, ei blesio, ei ddiddori ei gythruddo a'i arteithio.

Y mae wedi cael ei blesio yn ofnadwy hefo'r cynhyrchiad ac wedi mwynhau gweld y ddrama yn datblygu o'r papur i'r llwyfan.

Ond os nad oedd wedi ei blesio beth wedyn?

Roedd Guto Llew yn parhau ar ufflon o fform ac wrth ei fodd yn gweld cymaint o hufen y genedl o gwmpas roedd presenoldeb cryf yr heddlu'n ei blesio i'r dim hefyd.

A mynd o ddyletswydd...i blesio mam.

Fedra' i ddim deud yn iawn be' 'roeddwn i'n deimlo." Roedd yn hawdd gweld ar wyneb Snowt fod ateb Aled wedi ei blesio.

Gwyddai sut i blesio'i fam.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Er na fydd eu record hir, Stwff, yn apelio at bawb, mae'r amrywiaeth yn sicr o blesio'r rhai hynny sy'n mwynhau cerddoriaeth heb gitars a drymiau diddiwedd.

Rhaid bod TI Ellis, a oedd yn bennaf gyfrifol am y Gynhadledd, wedi ei blesio'n fawr.

Meddai wrthyf cyn diflannu i weithio ar ei haraith 'Diolch i chwi am ei gwneud yn hawdd i mi drwy eu rhoi yn y mwd iawn gyda'r stori wych.' Wel, yr oedd yn gwybod sut i blesio a gwerthfawrogi--yn wahanol iawn i'w rhagflaenydd swta!!

Cewch blesio'ch hun a ydych am gario'r olwyn y tu fewn i'r garafan neu brynu ffram bwrpasol i'w chludo oddi tani.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.

Er mwyn sicrhau fod lwc yn eu dilyn, bydd llawer tîm yn cael plentyn bach i fod yn fascot iddynt - adlewyrchiad hwyrach o'r adeg honno pan oedd aberthu plant i blesio'r pwerau tywyll yn beth cyffredin.

Yno dechreuai'r sgwrs, 'Beth oeddat ti'n meddwl o'r pregethwr ddoe?' a byddai'n rhwydd dweud os oedd yr hen saer wedi cael ei blesio ai peidio.

Miss Aster a ddangosodd iddo sut i edrych arnaf i: ond gwyddwn yn eithaf da mai i blesio Mam y chwipiodd honno ei difaterwch cynhenid yn gasineb.