Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blewyn

blewyn

'Reit, ta, blewyn.

Dyna pam y dwedodd Graham Henry taw Lloegr yw'r ail wlad gryfa yn y byd y dyddiau hyn, drwch blewyn y tu ôl i Awstralia.

O drwch blewyn yr wythnos hon, llwyddodd Plaid Unoliaethwyr Ulster i ddyrchafu eu llygaid uwchben greddfau hanesyddol y llwyth Protestannaidd.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

Ond fel y digwyddodd hi, dyma'r dyn yn tynnu pedwar o bobol oddi ar yr awyren heb droi blewyn, ac fe gymerson ninnau eu seddau hwy.

Bydd y Llyfr Mawr y Plant newydd yn cynnwys straeon cyfarwydd (yr awduron gwreiddiol, J O Williams a Jennie Thomas) am gymeriadau bythwyrdd megis Wil Cwac Cwac a Siôocirc;n Blewyn Coch, posau hen a newydd a lluniau o'r llyfr gwreiddiol.

"Watsia!" sgrechiodd wrth iddynt ddod o fewn trwch blewyn i fynd i mewn i'r car o'u blaen.

Mi yfodd ormod o ddŵr pan aeth hi allan am funud ddoe, ac mi ddaeth i mewn a'i blewyn hi yn syth gin gryndod.

Ond nid oedd blewyn o'i le ar lona.

Dychmygaf rhyw wyddonydd heb ddim gwell i'w wneud yn cyhoeddi nad yw Sion Blewyn Coch yn mwynhau ieir a ffowls a hwyaid Llyn y Felin ar ei fwrdd cinio.

Yr oedd hi'n weddol dal, i'm tyb i, a chanddi dorreth o wallt tywyll, yn tueddu i fod yn grych, a dim un blewyn gwyn.

Mae'n ffordd ryfedd o dynnu blewyn o drwyn rhywun - ond y ffordd fodern o sarhau rhywun yw gwisgo crys T gydau henw arno.

Wedyn dyma'r ddwy nesaf - Nel Blewyn Hir a Catrin Jên.

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Mae Penybont yn dathlu y byddan nhw - o drwch blewyn - yn chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Ac am smocio, 'waeth iti ladd rywun un blewyn yn y byd." Ail-oleuodd fy nghyfaill Williams ei bibell, a adawsai i ddiffodd yn nwyster ei deimladau.

Cwta flwyddyn sy' ers pan ma' nhad druan wedi'n gadal ni a thydy i slipars o ddim blewyn gwaeth na newydd." Wedi cael un esgid yn rhydd rhwbiodd ei droed yn ysgafn â'i llaw.

Mae rhai o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant wedi cael eu hanfarwoli ar deledu ers dyfodiad S4C ac mae Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch yn gyfarwydd i blant ledled y byd erbyn hyn trwy werthiant tramor y cyfresi.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.

A gallai'r coetsmon ddynwared Cymraeg chwithig Catherine Edwards i drwch y blewyn.