Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blodeuo

blodeuo

Os yw'r grug yn blodeuo yn Awst, bydd yr hydref yn fyr a'r gaeaf yn gynnar.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

Ac mi fyddaf yn rhyfeddu at y goeden hon bob blwyddyn gan na wn am unrhyw goeden arall sydd yn blodeuo cyn deilio þ sef mynd yn hen cyn bod yn blentyn!Y Ferch Dawel - Manon Eames (tud.

Yr un fuasai'r effeithiau ar lwyni addurnol hefyd sydd a'u tlysni yn nhyfiant y flwyddyn bresennol megis BUDDLEIA DAVIDII, CORNUS RHISGL COCH, HELYG ADDURNOL, ac eraill, neu lwyni a blodau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol megis RIBES (cyrens blodeuo), ambell SPIREA ac ambell BERBERIS, a.y.b.

Dyfrhau yn y bore sydd orau a gellir bwydo trwy ddwr, gan ddilyn y cyfarwyddyd sydd ar ` y pecyn neu'r botel yn ofalus, ar ôl i'r sypyn cyntaf o ffrwyth ddechrau blodeuo.

Cydfodolai'r ymchwil am wreiddiau dysg yn y traddodiad clasurol a grymoedd eraill: yr awydd am weld dysg debyg yn blodeuo yn eu hieithoedd eu hunain, a'r awydd hefyd am ledaenu dysg i'r cyffredin.

Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.

Y mae ambell sefydliad yn blodeuo yn yr anialwch, serch hynny, megis tþ bach diddorol yr Hen Lolfa y Nhalybont.

Mewn rhan o Asia lle roedd y Moslemiaid yn fwyafrif llethol hyd nes dyfod cyfnod Stalin, mae crefydd yn blodeuo eto a'r grefydd honno yn ei thro yn erfyn y gellir ei ddefnyddio i ledu'r bwlch rhwng Uzbekistan a Rwsia.

Synnais braidd at y berthynas newydd oedd yn blodeuo rhwng y ddwy.