Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blu

blu

Eistedda yn ei gadair a'i ben yn ei blu.

Syllodd Jean Marcel yn hir ar y miloedd o blu eira yn disgyn yn ysgafn ar bennau ei gydwladwyr, ac atgasedd tuag at y Maer yn cynyddu yn ei galon wrth iddo wrando'i eiriau.

I wneud hylif sebon rhowch lond cwpan o blu sebon (Lux neu unrhyw beth tebyg) mewn dysgl ac ychwanegwch ddŵr poeth.

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

At ddiwedd ei lyfr y mae Dr Morgan yn mynd i blu'r haneswyr hynny sy'n ceisio esbonio'r diwygiadau crefyddol fel adwaith pobl mewn argyfyngau cymdeithasol neu ddiwydiannol.

Pan brioda Shôn a minnau Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau Ieir y mynydd yn blu gwynion Ceiliog twrci fydd y Person.

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Ni fuasai pawb yn cytuno â'm dewis gan fod detholiad dirifedi o blu sewin ar gael, rhai wedi eu dyfeisio at wasanaeth pysgotwyr lleol.

Mae yr un mor abswrd â dweud wrth ddyn glo ei fod yn cario sachaid o blu ac nid sachaid o lo.

A robin yn camu fel esgob gan stwytho a lledu godre'i blu.