Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blwc

blwc

Pryddest arall ar destun hanesyddol, dull o ganu a oedd wedi hen chwythu ei blwc erbyn 1910.

Fe gymerodd oriau cyn y medrodd y tad fagu digon o blwc i fynd yn ôl i ail-gloir'r drws.

"Dydi cychwyn yn gyflym yn dda i ddim os ydi hynny'n golygu dy fod ti'n chwythu dy blwc." "Go dda, 'merch i," meddai'r hen ŵr.

Rhoddodd blwc i'w het dros un llygad fel y gwnai gyda'i gap a cherddodd fel ewig i gyfeiriad y Tŵr a godai'n saeth o ser i'r awyr.

Dros blwc o amser câi Gwenhwyfar bleser o'r ymyrraeth nes iddo gyrraedd hyd at fôn ei gwallt.

'On'd ydan ni'n greulon?' Rhoes Rhodri blwc sydyn i glust ei wraig.

Magodd blwc a rhedodd ar ei hôl, a'i chornelu lle na fedrai ddianc, ar dop y grisiau oedd yn arwain i lawr i'r ystafelloedd newid.

Eisteddant blwc ar eu traed ôl gan ddefnyddio'u pawennau a'u traed blaen i ymladd â'i gilydd yn union fel pe'n paffio, ac yn wir y mae ganddynt ergyd rymus iawn.

Nid yr elfennau hyn sy'n amlwg, ond yn hytrach barhad, ar newydd wedd a chydag angerdd newydd, o'r ysbryd Rhamantaidd hwnnw a oedd eisoes wedi chwythu'i blwc mewn gwledydd eraill.

Yn sydyn teimlodd blwc ar y lein.

Tua phedwar o'r gloch, a hithau wedi gorfod cydnabod yn anfoddog na ddeuai o hyd i ddarlun arall yn y llyfrgell, magodd blwc i fynd i'r seler.