Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blwydd

blwydd

Ddwy flynedd yn ddiweddarach tystiodd eto i'w dryblith yn ei gerdd 'Ewch, a chloddiwch Fedd i Mi', ac oni bai am ymgeledd ei ail wraig, Rachel, ni fuasai wedi byw i ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed.

Pan deimlodd yr ysfa i gael ci am y tro cyntaf, gofynnodd i Mam a Dad a gâi o gi bach fel anrheg pen-blwydd neu anrheg Nadolig, ond er crefu a chrefu, yr un oedd yr ateb bob tro.

ym 1991 - roedd 87 o wardiau (allan o 908) â 70% neu fwy o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn siarad Cymraeg, ond ni thrigai ond 5.1% o'r boblogaeth yn y wardiau hyn.

Eu gwahodd nhw am bryd ddydd Mercher i ddathlu fy mhen-blwydd.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Tra oeddent yn byw yng Nghaerllion, ac yn fuan wedi pen blwydd Mary yn un- ar-hugain, bu cweryl ffyrnig rhyngddi hi a'i gŵr, ac aeth hi a'r pedwar plentyn yn ôl at ei mam i Birmingham.

Cafwyd rhaglenni unigol gan gynnwys comedi oedd yn seiliedig ar brotest y beirdd yn erbyn BBC Radio Cymru, rhaglen ddogfen i nodi pen-blwydd y Tywysog Siarl yn 50, cystadleuaeth garolau genedlaethol a chyngerdd acwstig gan BBC Radio Cymru o'r Ganolfan Technoleg Amgen yng nghanolbarth Cymru.

Mae yna dros 2,000 o bobol yn cystadlu eleni wrth i'r wyl ddathlu ei phen-blwydd yn 54 oed.

Oddi wrth Mr Richards, ar 'i ben blwydd, deudwch wrtho fo.' Cymerodd y bachgen y llyfr ac edrychodd ar y teitl.

Dathlodd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ei phen-blwydd yn 70 gyda dau gyngerdd arbennig: un yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ym mhresenoldeb Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Noddwr Brenhinol y gerddorfa, a'r llall yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe.

Mae gêm pi-po fel'ma wastad yn mynd lawr yn dda gyda'r plant bychan o tua blwydd a hanner i fyny ac mae'r llyfrau clawr caled yma yn llawn digon cryf a chadarn i wrthsefyll bysedd bach yn tynnu i bob cyfeiriad.

Yn ôl Cyfrifiad 1991 yr oedd 508,098 o bobl Cymru dros dair blwydd oed yn siarad Cymraeg.

Wrth ddathlu pen blwydd stiwdio Bangor yn hanner cant oed, cofio yr ydym am gyfraniad Bangor i un arall o'r sefydliadau hanfodol hynny, sef cyfundrefn radio a theledu cenedlaethol.

'Babi blwydd,' wfftiodd Robat.

Feddylies i erioed y byddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn 23 oed yn China.

Gorfod gohirio pryd gyda'r myfyrwyr gan fod yr Adran Saesneg wedi trefnu pryd i Kate a minnau i ddathlu fy mhen-blwydd fory.

Gêmau ar gyfer plant rhwng tua 3 - 6 blwydd oed.

Gyda'r nos, mynd i barti pen-blwydd Jerry.

Dathlodd Station Road ei phen-blwydd cyntaf gyda ffigurau gwrando rhagorol - mae ymron i 90,000 o bobl yn gwrandon rheolaidd ar yr hanesion diweddaraf yn nhref ddychmygol Bryncoed.

Mae'r gêmau ar gyfer plant rhwng tua 3 - 6 blwydd oed.

Dyna yw dydd y pen blwydd.

Derbyn parsel pen-blwydd gan fy nghariad sy'n dysgu Saesneg yn Inner Mongolia.

Mae'n siop sy'n gwerthu amryfal nwyddau, pethau da, papurau newydd, caniau Côc, cardiau Pen-blwydd, fferins siocled...

Ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeunaw oed ddydd Sul cawsom flas o'r hyn sydd i ddod iddo ef - ac i ninnau.

Cyfrol i ddathlu pen-blwydd yr arlunydd enwog yn 80 oed.

Yn ei wynebu, roedd band pres yn canu alawon addas i ddathlu pen blwydd annibyniaeth Ariannin.

Er mai dim ond blwydd a hanner ydy Magi mae'n mwynhau dilyn straeon trwy gyfrwng lluniau.

Dyma'r flwyddyn y dathlodd Radio Cymru ei phen-blwydd yn 21ain.

Rhaid imi gyfaddef, fod y demtasiwn yn gref a bu bron imi wneud rhywbeth eithafol am gwallt cyn bwrw i barti pen-blwydd fy ffrind Sophie yn Llundain dros y penwythnos.

Ac yno, fel eisin ar gacen ben-blwydd mae'r brifddinas, Thira Newydd, yn gafael yn dynn ar wyneb y graig.

Roedd y Radio Wales Chronicle, rhaglen oedd yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod y mis cyn y pen-blwydd, yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r 20 mlynedd diwethaf - o etholiad Margaret Thatcher ym 1979 i Ddatganoli - trwy gyfweliadau Vincent Kane gyda sêr y byd adloniant, cerddoriaeth a chwaraeon.

Hyn oll, dim ond dau ddegawd ar ôl lansio BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, dau ben-blwydd a ddathlwyd ar adegau gwahanol o'r flwyddyn ddiwethaf.

'Y Golygydd yn rhoi hwn yn bresant i chi ar eich pen blwydd, Wmffra Jones,' gwaeddodd.

Penderfyniad dewr felly oedd ceisio dathlu'r pen-blwydd gydag awr o raglen yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Dathlwyd y pen-blwydd hefyd gyda rhaglen ddogfen arbennig gan BBC Cymru, NOW We Are 70.

Er bod yr Eglwys yn sgut yn erbyn y Cacao, criw o Leianod yn Chiapas oedd y rhai cyntaf i gymysgu'r Cacao efo siwgwr gan wneud y cachu carnero yn debycach i be ryda ni'n gwagio bocseidia ohono fo i lawr ein llwnc bob Dolig a phen-blwydd heddiw.

Traddodiad Chinese, perfformio yn ystod parti pen-blwydd.

ym 1981 - roedd 128 o wardiau (allan o 800) â 70% neu fwy o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn siarad Cymraeg, ond ni thrigai ond 7.1% o boblogaeth Cymru yn y wardiau hyn.

Doeddwn i ddim yn or-hoff o'r syniad o gynnal parti unwaith y mis i bob plentyn oedd wedi cael pen blwydd yn ystod y pedair wythnos flaenorol!

Ac mae o'n digwydd cael ei ben blwydd heddiw.