Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

blydi

blydi

Os na ddewch chi i agor y blydi drws y funud hon, rydw i'n mynd i'w gicio fo i lawr!" Ar sūn y fath awdurdod, trodd Morfudd ar ei sawdl, a phrysuro cyn gynted ag y cariai ei chrydcymalau hi yn ôl at y drws.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

"'Ti'n gwbod 'mod i wedi blydi wel gweud.'

"Stopa'r blydi bugle 'na, Cadwgs, neu mi fydd yr ast yma mas trwy'r blydi chimli." Ar achlysur arall roedd yr hen frawd yn traethu'n huawdl am berthynas a oedd yn bopeth ond dirwestwr.

Roedd hi'n rhy blydi hwyr.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

'Blydi hel, Mel.

'Blydi iypis Cymraeg,' gwaeddodd y llabwst i gyfeiriad sŵn corn siarad a ddeuai o ganol y dref.

"Ma' Dai ni wedi cysgu mas yn amlach na'r un blydi buwch yn Sir Aberteifi."

Blydi Saeson, rhefrai bob tro y cyrhaeddai'r postman heb lythyr.

Blydi Saeson.

Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.