Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bobman

bobman

Symudai'r niwl gydag ef i bobman, gan gadw'r ergydion draw, a chan gadw'r lleisiau y tu hwnt i'r sŵn.

Gyda bloedd uchel trodd yn ei sgidiau a rhedeg i ffwrdd, a'i deganau yn chwalu i bobman.

Meddai Eirlys: "Mae pobl yn dod o bobman i brynu baco yma am eu bod yn fwy hoff ohono na'r stwff sydd wedi ei bacio'n barod, er ein bod yn gwerthu hwnnw hefyd.

erwau ac erwau o gynefin arbennig ac yng nghanol yr unigeddau - i'w weld o bobman y 'tū ysbryd' i'r anghyfarwydd, neu Wylfa Hiraethog i'r astudiwr mapiau neu Plas Pren i'r lleol...

Y gegin o bobman!

Cofiodd Francis fel y bu i Siôn Elias gwyno wrtho ryw chwe wythnos cyn hynny fod y mab wedi torri ei wn, a'i fod yn cario llawddryll chwe siambr i'w ganlyn i bobman.

Rwyt ti'n lwcus nad oes gen ti frawd bach yn dy ddilyn i bobman.'

Mae genethod da yn mynd i'r nefoedd - ond genethod drwg yn mynd i bobman: Helen Gurley Brown, awdur Sex and the Single Girl.

Cawsom fwy o eira yn ystod y nos ac yr oedd haenen go dda ohono dros bobman erbyn y bore a brigau'r coed yn edrych yn flinedig dan bwysau'r gwymon gwyn.

Ystyriwch hyn: os megir cywion hwyaid o dan iâr, yr iâr honno yw eu mam ac fe'i dilynant i bobman gan ddibynnu arni'n llwyr am eu cynhaliaeth a'u diogelwch; serch hynny, yn gwbl groes i ymddygiad yr iâr, ni ellir rhwystro'r hwyaid bach rhag mynd i ddŵr a nofio ynddo.

y cwmwl du, a'i dilynai i bobman.