Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bobtu

bobtu

Yr oedd y Cyfundeb wedi sefydlu eglwysi ers rhai blynyddoedd o bobtu Peniel, sef yn Nantglyn a Phrion, ond fe gynhaliwyd Ysgol Sul yn y Lawnt, lle bychan rhwng Peniel a Dinbych, ac hefyd yn Nhŷ Coch sydd ar fin y ffordd rhwng Dinbych a Nantglyn ac ar gyrion ardal Peniel.

Y tu mewn, roedd Chuck a Martha'n eistedd o bobtu'r tân yn ddiamynedd, braidd.

I lawr wrth yr afon gyferbyn â'r ogof mae Cam Lewsyn, dan bentan o graig, un o bobtu'r afon lle y gallai'r herwr lamu dros Irfon i ffoi rhag ei elynion.

Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn.

Cynhaliwyd gwasanaeth Naw Llith a Charolau yn Eglwys y Plwyf ac yn Eglwys Crist o bobtu'r Nadolig.

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Ffurfir y glannau neu'r cloddiau bychain o bobtu'r afon yn naturiol wrth i'r afon ollwng gwaddod ger y sianel pan fydd yn gorlifo.

Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.