Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bodloni

bodloni

A hithau wedi cyrraedd ei deg-ar-hugain erbyn diwedd y chwedegau, roedd hi'n dechrau ymddangos fel petai Glenda Jackson yn mynd i orfod bodloni efo'r golchi llestri.

Ni welais i fy hun ddim o'r gwaith tyllu hefo llaw, felly rhaid bodloni ar hanes a glywais gan yr hen bobl, ac o bosib fod rhai yma heno sy'n gyfarwydd â'r gwaith ac y cawn dipyn o'r hanes ganddynt hwy ar y diwedd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r gwyliwr gartref yn gorfod bodloni ar funudau lawer o broffwydo, doethinebu a dyfalu.

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Ac ar ôl degawd o briodas roedd hi hefyd wedi dysgu bodloni ar fod yn ddi-blant.

Rheidrwydd a osodwyd arni hefyd oedd gwasanaethu a bodloni anghenion y bendefigaeth.

Ac felly y bu hi ynglŷn â'r plant hefyd; bodloni iddynt dyfu'n Saeson er mwyn heddwch.

O fewn Newsnight, ceir elfennau anfoddhaol, a barn y Cyngor yw bod angen ailystyried newyddion hwyrnos, fel y gellir bodloni'r gynulleidfa amlwg ar gyfer y gwasanaeth yn ddigonol.

Nid yw'r hydrocarbonau, er enghraifft yn bodloni'r amodau hyn.

Baulch fydd yn rhedeg yn y râs 400 medr tra bydd Iwan Thomas yn gorfod bodloni ar le yn y râs gyfnewid.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Yr oedd rhai ohonom yn cael cyflog digon deche ond eraill, mwy swrth, yn bodloni byw ar rhyw geiniog neu ddwy.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Dmitri aeth a hi a Bryn yn bodloni ar y wobr Lieder - y tro cyntaf i'r wobr honno gael ei chyflwyno.

Oherwydd ein pechod yr ydym o dan gondemniad ac nid oes dim a allwn ni ei wneud trwy ein hymdrechion ein hunain i sicrhau'r cyfiawnder a fydd yn bodloni'r Duw sanctaidd.

Daeth Duw yn ddyn yn Iesu Grist nid er mwyn bodloni chwylfrydedd meddyliol y Cristionogion cynnar ond er mwyn cyflawni iachawdwriaeth y byd: 'Yr hwn erom ni ddynion ac er ein hiachawdwriaeth, A ddisgynnodd, a ymgnawdolwyd Ac a wnaed yn ddyn ...'

Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.

'Ac mae hynny yn 'u bodloni nhw?' oedd ei hateb anghrediniol.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.

Ond dangosai ei wyneb nad oedd hyn yn bodloni Silyn Lewis.

Derbyn llythyr byr i'm bodloni ei bod hi'n iawn.

Wrth wrando ar y llu o atgofion a oedd gan Mrs Parry 'roedd hi'n anodd meddwl sut y gallwn ni yn Rhos oddef gweld clo ar ddrysau'r Stiwt, a bodloni ar weld canolfan gerddorol yn chwalu, a theatr fendigedig yn mynd a'i ben iddo - 'Dim ond y gorau sy'n ddigon da???'

Rhaid bodloni ar enghraifft neu ddwy yn unig.

Cafwyd adroddiadau dyddiol o'r Gelli yn ystod yr wyl yn May in Hay ac ar gyfer y ddadl flynyddol Debate at Hay a ofynnodd sut y mae Cymru'n bodloni'r disgrifiad ‘Cool Cymru'. Bu cyflwynwyr eraill BBC Radio Wales ar daith hefyd gydag Owen Money yn ymddangos mewn amrywiaeth o leoliadau ar gyfer Sioe Deithiol Haf BBC Radio Wales a Kevin Hughes, sydd fel arfer yn cyflwyno'r sioe siartiau wythnosol gyda gwestai enwog a phosau, yn mynd â'i babell i wyl Glastonbury yn Carry on Camping.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.

Dirmygu dyn yw bodloni i iaith a fu'n etifeddiaeth i'n tadau ni fil a hanner o flynyddoedd farw.

Roedd oddeutu 4,500 o docynnau wedi eu gwerthu a gan fy mod innau ychydig yn hwyr yn cyrraedd y pafiliwn, roedd yn rhaid bodloni ar sefyll yn y darn estynedig ohono lle'r oedd yn amhosib gweld dim oedd yn digwydd ar y llwyfan.