Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bodolaeth

bodolaeth

Ofnai rhai Cymry y gallai bodolaeth yr iaith Gymraeg greu'r argraff nad oeddent yn gwbl deyrngar i Brydain ac i'r Llywodraeth Seisnig.

Defnyddir bodolaeth ansylweddol ysbrydion er mwyn cyfleu cymhlethdod y berthynas rhwng agweddau gwahanol sylwedd ein bywydau ni.

Mynd yno, ac er nad oedd neb yn ein disgwyl nac yn gwybod dim oll amdanom, cawsom gyngor gan gapten i osod ein pabell gyda hwy, fel petaem yn ddau westai yn cael eu croesawu gan wr ty caredig, na wyddai am eu bodolaeth cyn hynny, i fwrw noson dan ei gronglwyd.

Gad i ni ofyn am dy gymorth di, gad i ni ymdawelu gyda thi, a rho bwrpas ac amcan priodol i'n bodolaeth ni o fewn dy deyrnas.

Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.

Ond gwelsom eisoes i modernismo fod yn gyfrwng naturiol i ing yr ansicrwydd ynghylch ein bodolaeth mewn byd a drodd yn ddi-Greawdwr, ac yn ddi- ben.

Mae bodolaeth cynlluniau iaith yn brawf fod angen cynllunio bwriadol ar gyfer y Gymraeg ond nid ar gyfer y Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru.

Yr oedd y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn cymedroli eu cynulleidfaoliaeth trwy ffurfio cyfarfodydd chwarter a chymanfaoedd neu trwy ymestyn awdurdod y rhai oedd eisoes mewn bodolaeth.

Yn y cerddi hyn y mae Iwan Llwyd yn ceisio canu'r genedl yn ôl i'w bodolaeth.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

Ymhlith goblygiadau'r ffydd hon y mae'r wybodaeth fod i ddyn bwrpas, fod i'r greadigaeth nod a bod trefn ac ystyr yng ngwead ein bodolaeth: 'Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll' (Col.

Derbyniant grantiau cymharol fach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond mae eu bodolaeth yn dibynnu'n fwy ar werthiant, hysbysebion lleol, a gweithgareddau codi arian lleol, sydd ynddynt eu hunain yn isgynhyrchion cymunedol pwysig.

Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.

Dyna pryd y dechreuais ama' bodolaeth Santa Clôs...

Cyfres o hanesion sydd yma am unigolion sy'n gwrthod derbyn bodolaeth mur Berlin fel ffin.

Dau'n unig ohonynt a fu mewn bodolaeth trwy gydol y ganrif, sef yr Academi Annibynnol a'r Academi Bresbyteraidd.

Ymddengys mai dim ond un darn o ffilm o Meredith yn chwarae sydd mewn bodolaeth a dangoswyd yr un darn hwnnw ddwywaith.

Y mae hi hefyd yn teimlo ac yn ewyllysio; mae ganddi brofiadau esthetig a moesol; gwyr fod haenau economaidd a gwleidyddol i'w bodolaeth.

Yn hytrach edrychir gyda rhyw dirionwch rhadlon ar ryfeddod (yn yr ystyr lythrennol) bodolaeth dyn.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Yn Nhrelew mae'r Gymdeithas Dewi Sant, neu'r Asociación San Davíd mewn bodolaeth ac mae'r gymdeithas yma yn cadw ei neuadd, ac yn ganolfan i ddisgynyddion y Gwladfawyr a hefyd yn hybu'r Eisteddfodau.

Hyd y gwn, ni chyhoeddodd Gruffydd erioed unrhyw drafodaeth benodol ar y cwestiwn 'beth yw hanfod bodolaeth cenedl?' , cwestiwn a ddaeth yn amlwg iawn yng Nghymru yn y chwedegau.

Fodd bynnag, un thema oedd yn unigryw yng Nghymru oedd bodolaeth y Gymraeg.

Fel Sosialydd ar ddechrau Yn ôl i Leifior mae'n dal i amau bodolaeth Duw (i Gareth Evans mae'n Farcsydd, ac i Karl yn Gomiwnydd).

Sefydliadau Erbyn hyn yr oedd y drefniadaeth enwadol, sydd mewn bodolaeth o hyd, yn cael ei chadarnhau.

Ni allai Saunders dderbyn bodolaeth llenyddiaeth Gymreig yn tarddu o'r cymoedd, am na allai dderbyn bodolaeth y cymoedd fel rhan o Gymru.

Serch hynny, oherwydd ein bod yn cael ein gwthio i feddwl am neges y straeon hyn, gwelir nad oes pwynt poeni am ein bodolaeth gan fod hynny yn dod â gwacter ystyr.

Ac y mae bodolaeth y gerdd yn fwy fyth o syndod pan gofiwn fod marwolaeth plant bach yn ddychrynllyd o gyffredin yn yr Oesoedd Canol, a bod rhieni'n tueddu i ymgaledu a derbyn y fath golledion fel rhan anochel o fywyd yr oes.

Ar y llaw arall, mae bodolaeth yn y byd rhyfeddol yma yn brofiad mawr!

Peth arall sy'n egluro bodolaeth y cerddi hyn yw effeithiau'r pla.

'Does raid i ni ond cofio am y Catalaniaid a'r Basgiaid i sylweddoli sut y mae bodolaeth lleiafrif diwylliannol, hanesyddol neu ethnig yn dibynnu ar iaith.

Go brin bod y Gymdeithas yn haeddu'r disgrifiad o fod yn fudiad torfol ar unrhyw adeg yn ystod ei bodolaeth.

Amheuir bodolaeth ambell un.

Pob peth yn iawn, ond iddynt beidio a pheryglu eu bodolaeth eu hunain.

Gellir dadansoddi y DNA sy'n cario gwybodaeth i reoli ffurf a bodolaeth anifeiliaid.

Manteisio ar y darpariaethau â'r peirianwaith sydd mewn bodolaeth yn barod.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.