Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boenus

boenus

Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu'r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i'r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

A'i foch yn curo'n boenus, edrychodd Gareth o'i amgylch.

Yn y ddrama mae Cymru'n wlad boenus o dduwiol, yn annioddefol felly i griw Uffern.

Gwthiodd ei hun ymlaen ar ei ben-lin a'i benelin dde am ychydig, gan lusgo'i fraich a'i goes chwith yn boenus ar ei ôl.

Peth ffwrdd-a-hi yw pethynas plant ysgol at ei gilydd, er y gall fod yn boenus o angerddol ar brydiau, a pheth i'w daflu heibio wedi dod i oedran gŵr - neu wraig!

Yn oes y pornograffi, y camddefnyddio alcohol, yr esgusodi ar odineb a'r ymbleseru dilyffethair, y mae'r geiriau hyn yn boenus o gyfoes.

Mae hi'n boenus o lân ar brydia.

Difyr yw ceisio dadansoddi'r pethau bychain sy'n ennyn gwen, fel yr hen gerbyd treuliedig hwnnw'n rhoncian ymlaen yn boenus o araf gyda cherdyn ar ei du ol; RUNNING OUT!

Mae'n bosibl mai rhan o ffurf gynharach ar yr hanes yw'r orfodaeth i adrodd ei stori wrth bob un sy'n dod i'r llys ac yna cynnig ei ddwyn ar ei chefn, neu, fel y dangosodd y Dr Brynley Roberts, fe all fod yn ffurf o gosb gynnar, cosb a ddarostyngai'r troseddwr yn boenus ac y gwyddai'r awdur amdani.

Dŵad atoch eich hun oedd yn boenus, ond roedd yn werth o ar y dechra cychwyn.

Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.

Nid gwraig ostyngedig arbennig yw Rhiannon ac felly byddai'n boenus iawn iddo orfod gweithredu fel cludwr.

Agorwch y drws!" Clustfeiniodd yn boenus, ond chlywai hi ddim ond sūn ei chalon yn pwmpio yn rhywle.

Er ei fod yn hoff o fwyd (yn lwth yn ystod cyfnod diofal ei ieuenctid), aeth o un pegwn i'r llall: cadwai at dri phryd y dydd a chyfri'r calori%au yn boenus.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.

Nid ydynt erioed wedi profi'r hollt a oedd mor boenus i Lenz yn Berlin.

Gallai fod yn boenus o ostyngedig ac yn wirion o falch ar yn eildro.

Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.