Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bol

bol

Yna cofiodd Willie i Ellis Gruffudd ddweud nad llond bol o un peth a geid i ginio ond pigiad o'r naill beth ar ol y llall a hynny heb dalu ecstra.

ond mae detholiad 'gwerthfawr' yno o binwydd Alban, Corsica, Lodgepole ac ati, ond wedi dweud hyn, du-bol-buwch yw y coedwigoedd, cuddfan y llwynog - a dim llawer mwy.

Cafodd lond bol ar hyn, ac aeth yn ôl i'r car a chyfnewid y gêr plu am gêr pysgota gwaelod.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Fe roddai darlun fel hwn flewyn o chwaeth i gegin lom Nefoedd y Niwl a thestun siarad am fisoedd i werin ddiniwed Bol y Mynydd.

Ers hynny yr ydw i wedi gweld yr hysbyseb hon hyd syrffed - ac wedi cael mwy na llond bol arni.

Dyma un o'r cerddi a glywyd yn Sioe Beirdd 1995, Bol a Chyfri' Banc a fu o amgylch Cymru yn ddiweddar.

Aeth popeth yn hwylus am flwyddyn, yna cafodd y peilot - a oedd yn ūr priod - lond bol ar y ferch a dywedodd wrthi am adael.

Ar wahan i glamp o raswraig unig gyda phen ôl fel caseg a bol fel tarw penwyn.

Aem drwy'r astudiaethau manwl hyn hefyd ar y goes gan dreulio tri mis gyda'r aelod hwnnw ac felly am bob rhan o'r corff: rhannau fel y benglog a'r ymennydd neu'r bol, a cheid arholiadau bob rhyw fis neu chwech wythnos ar yr astudiaethau hyn.

Rydach chi'n gweld pobl efo tai, plant, ceir, bol cwrw - alla'i ddim fforddio bol cwrw!

Doedd hi ddim yn nerfus, a doedd dim cryndod yn ei bol.

Ges i lond bol o fon.

Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.

Ardal gwasgarog ydy Bol y Mynydd a'r ffermdai a'r tydynnod wedi eu hau yn blith draphlith dros wyneb y rhostir ac, yn ôl un hen goel, y cawr Odo sy'n gyfrifol am y blerwch Un pnawn mwll cyrcydai Odo ar ysgwydd Mynydd yr Ystum yn ddrwg ei hwyl, a hynny am fod ganddo gorn ar fawd ei droed chwith, a hwnnw'n pigo.

Yn syml, felly, mae Kelly Jones wedi sylweddoli (fel pawb arall) fod cyhoeddiadau fel yr NME a Q yn cefnogi grwpiau nes eu bod yn dechrau denu miloedd o ddilynwyr, ac yn amlwg mae Stereophonics wedi cael llond bol ar y fath agwedd.

Y mae hyd yn oed hen bagan fel fi wedi cael llond bol ar y busnes yma o gyfeirio at Graham Henry fel y Meseia.

Ac fel yna , yn ôl traddodiad, y daeth ardal Bol y Mynydd i fod.

Mae popeth drosodd iddi hi,' ebe Sylvia â gwên gam, gan rwbio'i bol chwyddedig.

Rydym ni i gyd wedi cael llond bol ar y brenin a'i weision pwysig yn ceisio rheoli'r Eglwys yng Nghymru.

"Dydi awyr las a golygfa brydferth ddim yn llenwi bol neb," atebodd Tom yn chwerw.

Y sgil-glwyfa yn y pen a'r bol a'r gwegian, a'r gwayw cyffredinol ...

Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau'n crynu a'r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn.

Ond fel gweddill pobol anabl yr ynysoedd hyn mae Sian Frost bellach wedi cael llond bol ar driniaeth eilradd.

Bol buwch ddu go golledig oedd ymddeoliad y ser a'r lleuad dan gymylau trymion y gaeaf hwn ar ei egraf.

Wn i ddim amdano chi ond yr ydw i wedi cael llond bol ar bwndit ar ôl pwndit yn siarad am gemau cyfartal gyda't un afiaith a phe bydden nhw yn gemau wedi eu hennill.

Cofiaf ei lais yn fy rhegi o'r twllwch am hydoedd hyd nes i mi gael llond bol a chodi yn fy ngwylltineb allan o'm gwely a chroesi llawr pren y babell a lluchio dwrn dirybudd i'w ddannedd i'w ddistewi.

'Gin fi ffost beit, Mf Huws!' a chwythodd Malcym i'w ddyrna a dawnsio o un droed i'r llall yn ei siacad ledar ddu nad oedd hyd yn oed yn cyrraedd ei fotwm bol.

Roedd hwn yn gyfnod o chwilfrydedd mawr ynglŷn â'r gofod, yn enwedig yn Rhos-y-bol am fod un o hogia'r pentra, Glyn Pen Parc, yn un o brif hogia'r orsaf yn Cape Canaveral.

Os oedd y bol yn galed dylid yfed sudd dail y gelynen dair gwaith y dydd am naw diwrnod i gael iachâd.

Chewch chi ddim gwisgo coban ganddyn nhw os na fedrwch chi ddyfeisio llinellau yn gyflym fel 'Cosi bol Casi bach' - sydd yn farddoniaeth bur medda nhw oherwydd rhyw gleciadau swn sydd o uwch gwerth na throsiadau barddonol.

Cafodd ei synnu braidd gan y gwahaniaeth rhwng bol y chwilen a'i chefn.

Cododd ei galon fymryn a meddwl na fyddai ddim hanner mor unig arno wedi iddo gael ci _ ci tebyg i Cl_o, er ei bod hi'n rhy dew a'i bol yn mestyn tua'r llawer ac yn ysgwyd wrth iddi hi gerdded.

Un ffordd o adnabod y cyflwr yw teimlo croen y bol neu'r gesail.

Os ydych chi wedi cael llond bol ar y straeon rhamant bondigrybwyll a'r straeon ditectif bondigrybyllaf yna dyma'r nofel berffaith i chi.

Mi roedd y trigolion wedi cael llond bol ar ymddygiad y bachgen ac wedi dwyn y mater i sylw'r heddlu yn ystod cyfarfod o Gwarchod y Gymdogaeth.