Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bolisiau

bolisiau

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Disgwyliwn i'r Cynulliad sefydlu Fforwm Economaidd Democrataidd i ddatblygu ystod eang o bolisïau economaidd er mwyn cryfhau economi ein cymunedau gwledig a threfol a hynny ar sail yr egwyddor o gynaladwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Gall diffyg statws swyddogol effeithio ar bolisiau o Ewrop a gwariant ar raglenni perthnasol.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Dywed Maniffesto Cymdeithas yr Iaith fod yn rhaid wrth bolisïau newydd — o ran tai, cynllunio a'r economi — wedi'u hanelu at sicrhau bywyd a pharhâd i gymunedau lleol a rhyddid iddynt lunio'u dyfodol eu hunain.

Gofynnodd yr aelodau am i bapur polisi ar fater Cyflogaeth a Datblygiad Diwydiannol gael ei baratoi a'i drafod cyn i unrhyw bolisiau gael eu cynnwys yn y Cynllun Lleol.

Gall y Ffederasiwn fabwysiadau rhai o bolisiau yr awdurdod addysg lleol, er enghraifft, polisi cyflogaeth.

Yno y mae'r holl bolisiau a bwriadau yn blodeuo a dwyn ffrwyth neu'n marweiddio a chrebachu o ddiffyg cynhaliaeth gan mai natur y berthynas rhwng athro a disgybl yw'r elfen sy'n greiddiol i lwyddiant.