Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

boliticaidd

boliticaidd

Canys arf boliticaidd fwyaf nerthol y dydd hwn yw teledu.

Adwaith yn erbyn syniadau Rousseau ac athroniaeth y Chwyldroad Ffrengig yw ffydd boliticaidd Charles Maurras yntau.

'Doedd y chwyldro ddim yn boliticaidd i gyd.

Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.

Sylfaen y gymdeithas sefydlog oedd yr uned boliticaidd gyda'i rhaniadau a'i dosbarthiadau trefniadol.

GWLEIDYDDION YMARFEROL Yn fras, dynion yw y rhai hyn a gred, fel Karl Marx, fod llawer iawn o egni wedi bod ar waith i roi seiliau damcaniaethol ac egwyddorol i gred boliticaidd, ond mai eu dyletswydd hwy ydyw gweithredu.

Dwi'n meddwl mai cyfraniad Cymdeithas yr Iaith i'r frwydr boliticaidd ydi cynhyrfu'r dyfroedd.

Mewn llythyr at D J Williams (15/1/62) dyma'i ddisgrifiad o'r ddarlith hon: '... araith boliticaidd i Blaid Genedlaethol Cymru fydd hi dan y teitl Tynged yr Iaith'. A'r ffaith fod rhai o aelodau'r blaid honno ar y pryd yn agored i'w hargyhoeddi gan yr 'araith' a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

De minimus non curat lex. Nid estyn y Llywodraeth fys i achub lleiafrif sy mor boliticaidd aneffeithiol, mor druenus ddihelp, mor anabl i'w amddiffyn ei hun ag yw'r lleiafrif Cymraeg yng Nghymru.