Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bondigrybwyll

bondigrybwyll

Pwy mewn gwirionedd ydi'r Eingl-Gymro bondigrybwyll yma, ond un sy'n gwybod ei fod yn Gymro, neu sy'n dymuno meddwl amdano'i hun felly, ond sy'n ymwybodol byth a hefyd ei fod yn siarad iaith estron?

Tawelwch sydd wedi bod ym Mhrydain ers i'r grwp ganslou taith Brydeinig llynedd, ac ers hynny, mae Cerys wedi wynebu beirniadaeth yn y wasg am ei sylwadau am gyffuriau, a chyhuddiadau o ymddygiad rhagrithiol - yn bloeddio canu am ba mor ddi-enaid yw bywyd Llundain, ond eton cael ei sbotion gadael y Met Bar bondigrybwyll gydag amrywiaeth o ser.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli, mae'n amlwg, fy mod innau hefyd yn gynnyrch y gymdeithas honno, a bod y 'consumer society' bondigrybwyll wedi esgor ar ddiwylliant cyfan yr oeddwn innau'n rhan ohono yn ddiarwybod i mi fy hun.

Lot o rai bach yn weddol agos at ei gilydd er mwyn i'r Roman Soldiers fedru gweld y lle nesaf yn weddol fuan o achos y niwl bondigrybwyll.

Ond mae'n rhaid imi gyfaddef na welodd neb yr enw bondigrybwyll hwnnw mewn unrhyw daflen byth wedyn chwaith.

O ganlyniad, roedd y gwarchodwyr bondigrybwyll yn synhwyro ein bod yn fwy agored ac yn llai rhagfarnllyd.

Ond ar yr un pryd ceir penodau lle mae'r pwyslais ar gyffroi dychymyg y pelntyn, drwy ei gael i'w roi ei hun yn sefyllfa cymeriadau hanesyddol, sef ymarferion yr 'empathi' bondigrybwyll, y bu cymaint o ddadlau yn ei gylch yn ddiweddar yn y wasg Seisnig.

Bu tipyn o glochdar am ben Wil Dafis o'r herwydd felly, ef a'i ragolygon carwriaethol bondigrybwyll ef a'i 'rywun annwyl'; a hael ei gwala fu'r hwyl am ei freuddwydion llancaidd pur uwchben peintiau per yng Ngwesty'r Llong.

Os ydych chi wedi cael llond bol ar y straeon rhamant bondigrybwyll a'r straeon ditectif bondigrybyllaf yna dyma'r nofel berffaith i chi.

Ac o ganlyniad rhaid oedd cario'r 'bag bach' bondigrybwyll.