Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

borfa

borfa

Y darluniad cywiraf a fedrwn roddi o'r golygfeydd ar y daith hon ydyw disgrifiad a roddir gan Solomon o faes a welodd ef yn rhywle: `Wele, codasai drain ar hyd-ddo oll; danadl a guddiasai ei wyneb ef; a'i fagwyr (goed) a syrthiasai i lawr; y palasau ydynt wrthodedig - yr amddiffynfeydd ydynt yn ogofeydd, yn hyfrydwch asynod gwylltion, yn borfa diadelloedd.'

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Gwelodd y dyrfa, nid yn unig fel defaid heb fugail, ond fel defaid heb borfa.

Ei gartref - ardal y grugoedd a chynefin y defaid, a chreigiau llwyd Cyn Gambriaidd Cefn Padarn yn brigo yn feini mawr ar y llethrau, rhwng y grug a gweiriau'r borfa fynyddig.

aros fel glas- wellt y borfa heb dyfiant yn ystod yr oerni, gwywo uwchben y pridd fel danadl poethion, neu gysgu'n flagur tew o fwlb dan y pridd.

Er fod gan Yr Alban gyfran uchel o laswellt mae mwy ohonno'n borfa arw.

Dyw rhoi'r borfa ar y pallets ddim wedi gweitho, meddai Albert Francis, cyn-dirmon Parc yr Arfau ar y Post Cyntaf y bore yma.

Bu'n rhaid i'r awyren fechan lanio ar borfa ddwywaith yn ystod y daith.

Ifan: O'r borfa ar y cloddiau a'r twmpathau ar y gors fe gliriwn y rhent ag ŵyn-tac ac ebolion, pob llwdn fel ebol, a phob poni fel march erbyn y Gwanwyn .

Doedd y bryniau ddim mor uchel, ac yn lle coedwigoedd roedd yno feysydd bras, a gwartheg a defaid yn pori'r borfa ir.