Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

braf

braf

Ymollyngodd wedyn i huodledd braf.

Bobol bach mae yna ddigon o'r rheiny yma,' a chwarddodd yn braf.

Braf ddydd Calan, bydd cynhaeaf da.

Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

Ond mae'n amser braf ac yn gyfle i bawb gael sgwrsio, gweld hen ffrindiau, a hyd yn oed wneud ffrindiau newydd.

Ond mae'n braf gweld fod pethau wedi gwella rywfaint yn ddiweddar, gyda thrafodaethau yn Gymraeg ar weithiau R.

Diwrnod cynnes a gyda'r nos braf.

O ganlyniad, fe fyddai'r awdurdodau yn medru gwahardd y Gymdeithas, a gwneud yr holl aelodau yn derfysgwyr dros nos, tra eich bod yn cysgu'n braf yn eich gwely.

yn neidio yn y dwr neu'r cannoedd o adar sy'n byw yno yn canu'n braf.

Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n medru cael diod." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn gwenu'n braf.

Roedd yn fore heulog braf er bod yr awel yn ddigon main i beri i Rhys gerdded yn gyflym.

Tŷ mawr braf a golgyfa ardderchog..." "Ble mae e?

Maen nhw'n llyfrau braf i'w perchen ac mae rhes ohonyn nhw ar silff lyfrau'r plant.

Roedd enw addas i'r lle hwn sef Disgwylfa ac ar ddiwrnod braf gellid edrych dros gefn Cadlan gyferbyn a gweld y bryniau gwyrdd yn codi drum ar ol trum, nes cyrraedd uchelfannau y Bannau gleision.

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

Roedd hi'n fore braf, a chan fod rhyw ddwy awr i fynd cyn y dadorchuddio, gadewais y ffordd fawr wrth dafarn y Red Cow yn Nhreorci a throi i fyny i Troedyrhiw Terrace wrth droed Moel Cadwgan.

Tywydd braf dros y Dolig, fe bery am fis.

SAETHAUEURAIDD: Braf gweld bod rhywun wedi gweld yn dda i wneud rhywbeth gwell nag ail baentio'r relins o flaen y cae chwarae yng Nglanadda.

Dro arall yr oedd yn noson serog braf yn gynnar yn y gwanwyn a safem yn y drws yn syllu o gwmpas gan fwynhau'r tywydd braf mor gynnar yn y flwyddyn.

Cerdded y gwaliau a llwybreiddio fy ffordd o'r Forum - sgwâr braf gyda'r deml i Jupiter yn llanw un pen iddi a'r Basilica a themlau Apollo a Venus yn addurno'r pen arall.

Gan ei bod yn ddiwrnod braf, mynd am dro efo'r myfyrwyr i ben y bryn gyferbyn a'r coleg i hedfan barcud.

Yn gymdeithasol hefyd roedd pawb wedi mwynhau, ac er bod amser yn rhy brin i grwydro ymhell roedd hi'n braf cael gweld ychydig ar sir Benfro.

Ac mae'n braf dweud mai mentrusrwydd sy'n nodweddu'n nofelwyr diweddar yn hytrach na cheidwadaeth.

Os byddai Enlli o liw llwydlas, roedd hynny yn ddigon o arwydd am ddiwrnod braf trannoeth.

Wrth wylio'i lein yn y dw^r teimlai'n fodlon braf.

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

Ymhen dim amser roedd tri brithyll braf arall wedi eu dal, un i Alun a dau i Bleddyn.

Mor braf oedd hi pan oeddem ni'n gallu rhannu cymdeithas yn Ni a Nhw.

Croeso, Dewi a Mair: Yr oedd yn braf gweld Mr Dewi Williams (Dewi six) o Gaerdydd a'i chwaer Mair ar ymweliad a'r teulu ym Mraichmelyn.

Roedd y twll yn y clawdd yn hen le braf wedi'r cyfan.

O'n i'n meddwl 'falle 'se hi'n braf mynd am wâc fach bore 'ma.

Doedd o ddim wedi cysgu fawr ddim y noson cynt ac roedd o'n crynu a chwysu er ei bod yn fore braf o Fehefin.

Dywed eraill mai diwrnod braf a'r tywydd wedi lliniaru peth ar ôl sbel go galed yw'r gorau!

Mae'n braf cael gweld y bandiau Cymraeg yma yn canu yng Nghymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru lle mae lleoliadau mawr fel y pafiliwn rhyngwladol yn brin.

"O, dyna braf," meddai'n sydyn.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Yng Nghymru, ni ddylid hau'r hadau os nad yw'r tywydd yn braf.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Tywydd braf a chymerwyd y cyfle i atgyweirio rhai o'r planciau ar y dec oedd wedi cael eu difrodi yn y storm.

holodd mewn dychryn, wrth weld olwyn fawr o'u blaenau yn fôr o liwiau, ac yn troelli'n braf.

Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Parsel mwy, ac un anhylaw braidd yw'r cyfnod braf rhwng Mehefin a diwedd Awst.

Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.

Cysgai Gwenan yn braf yn ei gwely ar ôl bwyta llond gwlad o Goco Pops.

Cafwyd tywydd braf a chystadlu da ar Safle Sioe Mon.

Ar ddiwedd y diwrnod roedd hi'n braf iawn cael sythu'r coesau a cherdded yn ol i'r gwesty yn hytrach na rhewi wrth aros ugain munud am y bws.

Gwyddent yn iawn beth oedd ym meddwl eu brawd hynaf - nid oedd yn beth braf o gwbl bod ar y ffordd i nôl Iona.

Wrth sefyll yn Eglwys Glenwood sy'n gosod pwyslais mor iach ar addoli a gwaith cymdeithasol, braf oedd darllen geiriau C.S. Lewis ynghylch gobaith y Cristion a'i genhadaeth.

Da ni'n rhy debyg i'n gilydd yn ôl y plant a dydw i ddim yn siwr ydyn nhw'n golygu hynny fel gair o ganmoliaeth ynteu awgrym o feirniadaeth ond y mae yna rywbeth yn braf cael eich hystyried fel rhywun cwbl wleidyddol anghydnaws.

Diwrnod llonydd braf a Del newydd fod am brofion yn yr ysbyty.

Bron na ellir ei glywed yn dweud, "Dw-i'n edrach ymlaen; bydd hi'n braf cael trip.

Bob ochr gwelem goedwigoedd braf yn ymestyn am bellter.

Ac mae'n anodd cyfleu pa mor braf yw cael llyfr gwreiddiol Cymraeg i'r plant yn hytrach nag addasiad neu gyfieithiad.

Ar fore hynod o braf yn y Brifddinas, fe benderfynodd Plaid Cymru agor yr ymgyrch yn yr awyr agored.

Beth well na sipian Pina Colada trwy welltyn o hanner cneuen tra'n diogi'n braf mewn hamoc rhwng dwy balmwydden?

Daeth yr haul o rywle i wenu'n braf wrth i'r ddau gyrraedd Pwll Mawr.

Braf cael gwahoddiad gan fod nifer o athrawon tramor mewn colegau eraill yn cael eu hanwybyddu.

Braf yw cael croesawu Mr Aled Eames, Bron y Garfth adref o'r ysbyty.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Mae gen ti'r boddhad o weld dy ddyfodol yn canghennu 'mlaen yn dy ddisgynyddion." "Ydi, mae hynny'n beth braf," cytunodd Gruff.

Dros y blynyddoedd, mae llawer wedi gadael y dref fechan wledig yma ar gopa'r bryn ac wedi clywed am yr holl gyfoeth, yr holl fyw braf a'r holl hwyl sydd yna i'w gael yn y ddinas.

Ac maen braf ei chlywed.

Roedd hi'n gynnes braf yma yng nghysgod y gwynt, y llyn yn ddrych clir, yr awyr yn sidanaidd ac esgyrn eira'n Machio'n y cilfachau.

Pobol groesawgar ydi trigolion Santorini – ac mae'n braf gweld na lyncwyd y lle gan fasnach.

Wedyn dyma nhw'n mynd adre ar y bws ac roedden nhw'n dal i wenu'n braf.

Yna, pan welodd ei gyfaill yn chwerthin yn braf am ei ben, gollyngodd ei wn i'r llawr a dechreuodd daflu eira at y plant.

Ond dyma'r eira'n dechrau dod yn blu bach yma ac acw ac ymhen rhyw awr brasaodd a bu rhaid gadael tân braf a llyfr blasus a'r boliaid cinio'n pwyso'n drwm.

Ond pan roddodd ei drwyn ar y ffenast drwchus roedd y fuwch wedi codi ei chlustia, yn cnoi ei chil yn braf, ac yn edrach arno!

Byddai'r gryduras yn cysgu'n braf cyn deg a go brin y deffrai wedyn tan y bore.

Braf hefyd oedd nofio yn y dwr clir, glas.

'Mae'n braf cadw'r ddalen yn lân, cael buddugolaeth 1 - 0 a mynd trwodd i'r rownd nesaf.

`O, mae'n braf i fod adre,' meddai Darren.

Mi fyddwn i'n codi'r gwydrau ac edrych ar rhyw dyddyn yn y pellter, a meddwl, "dyna le braf i fyw," ond wedi edrych ro'n i'n gweld fod y lle'n wag, wedi mynd a'i ben iddo.

Mi fydd yn braf iawn cael ci i fynd â fo am dro ac i edrych ar ei ôl o.'

Cyn pen chwarter awr arall o fyfyrio ar y groes o gyswllt gytbwys accenog yn nodiadau sych Wali, roedd Jabas hefyd yn chwyrnu'n braf.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.

Braf oedd cael eistedd a mwynhau cynhesrwydd yr haul ar ein gruddiau.

Ni ddychmygodd fod rhai wedi bod ar eu traed drwy'r nos yn Nhraethcoch yn dyfalu ble 'roedd e, ac yntau'n cysgu'n braf yn Llydaw.

I eraill ohonom yr oedd yn braf cael bod yn un o'r kids am wythnos er i'r lle droi yn dipyn o stomp erbyn dydd Sadwrn ac i minnau, fel sawl un arall, godi llaw a dweud ta-ta yn gynnar ar warchodwyr y maes parcio a'i hel hi am adra.

Gan brofi cyflwr mor braf yw'r un benywaidd erbyn hyn.

Fodd bynnag, braf gweld nad y Gymraeg yw'r unig iaith syn cael trafferth dygymod ar arfer Saesneg gwirion o gael dau air am yr un peth.

A dyna braf oedd bod yn ôl; popeth mor gynefin ac mor annwyl.

Rŵan, mae hynny drosodd; rydan ni'n dechrau cofio mor braf yr oedd o." Ni ddywedodd yr un o'r lleill air o'u pennau.

Meddwodd Rhys yng ngwres ei chusanu nes teimlo'n benysgafn braf.

Mae'n braf gweld papur Cymraeg arall yn ymdrin a'r byd canu pop cyfoes yng Nghymru, sef SGRECH.

Gyda chymaint o grwpiau addawol yn gwneud eu gorau i adael eu marc ar y sîn, braf ydyw gweld label sydd yn barod i gefnogi cymaint ohonynt.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Byddai'n braf pe gallai Ceri ac Edward ailddarganfod ei gilydd.

Braf iawn hefyd, gyda llaw, o%edd gwe%ld Ray Clemence, golwr Lloegr, yn ildio pedair gôl a dangos i bawb fod pob golwr yn gallu diodde pnawnie gwael!

O mor braf oedd llonyddwch a thawelwch yr wyth a hanner munud i fyny'r mynydd.

Ond ni waeth gennyf i; mae'n braf cael enwi Gwyn a dod ag ef i'r sgwrs mor naturiol â phe bai'n dal gyda mi.

Y search engine newydd cymreig o Cymdeithas yr Iaith - ac mae'n gweithio'n braf.

Roedd hi'n cnoi ei chil yn braf.

Clywais son fod swrn o hen gopiau o'r Herald yn Llyfrgell y Brifysgol ym Mangor; os felly, dyna gyfle braf i'n llenorion ifainc.

Pan ddaethon ni i'r ddaear yn y diwedd, roedden ni ar fryncyn braf y gwair yn hir ac yn ir o'n cwmpas, fel matres esmwyth.

Yr oeddwn wedi mynd i lawr yn hamddenol braf y prynhawn dydd Gwener, ac ar ôl bwcio fewn i'r gwesty yn siarad gyda ffrindiau cyn cinio ym mar y Belle View Royal Hotel ar y nos Wener heb ofal yn y byd.

Roedd hi'n fin nos braf.

A phan fydd hi'n haul braf, wel yr ateb adeg hynny ydi nad ydynt yn dod i r golwg ar dywydd sy'n rhy boeth.

Y mae yna awyrgylch i'r trac gyda chyffyrddiadau tebyg i'r Gorkys syn ei gwneud yn gân hamddenol braf.