Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

braich

braich

Dull arall oedd torri croen braich person a throsglwyddo iddo gynnwys polleth claf nad oedd yn ddifrifol wael.

"Barod, Joni?" Gwasgodd Sandra ei law ac ar hynny cododd ei braich i symud y blanced o'r ffordd.

Clymodd ei braich am ei fraich o a'i arwain i'r stafell fwyta lle roedd Elsbeth ac Eurwyn yn aros amdanynt.

Awgryma'r hanesion amdano ei fod yn gartrefol ddigon ymhlith dynion yng ngweithdy'r teiliwr neu yn y dafarn, ond ei fod yn cadw merched hyd braich trwy feithrin fa‡ade o gwrteisi cellweirus neu trwy eu hanwybyddu.

Erbyn hyn roedd yr anifail wedi closio ato ac yn ei rwbio'i hun yn ysgafn yn erbyn braich y morwr.

Cymaint oedd y nerth bôn braich y tu ôl i'r bêl fel y treiddiodd mor bell â'r ymennydd.

Yn y dyddiau hynny unwaith bob chwarter y byddai'r gof yn danfon ei filiau allan, ac ambell dro byddai bil y gof bron 'hyd braich'.

cododd lopez o'i gadair a dal braich debra.

Torrwyd ei braich, a hithau ar ei ffordd i'r feddygfa ar y pryd!

Yr oedd yn Sarah Owen, meddai ef, 'ryw ddefnydd anghyffredin', nid yn unig yn gorfforol - cerddodd bedair milltir a deugain un diwrnod gwresog gan gario plentyn ar ei braich y rhan fwyaf o'r ffordd - eithr hefyd yn feddyliol, oblegid er ei bod yn anllythrennog, yr oedd ganddi gof cryf a chariai lawer o lenyddiaeth arno.

Dau ben, chwe braich a dim coesa', A dyna i chi'r peth rhyfedda' A welsoch bob un, Eich llun chi eich hun.

Bu rhai ysgolheigion yn barod i haeru mai Selot, cenedlaetholwr Iddewig, oedd Iesu, a'i fod yn barod, yn enwedig tua diwedd ei weinidogaeth, i ddefnyddio nerth braich a chyllell i ryddhau ei wlad o afael Rhufain.

'Felly toedd Vatilan ddim isio dy ladd di, nagoedd, Gemp,' meddai Nel yn sgipio tuag ato fo ac yn rhoi ei braich am ei ysgwydd esgyrnog.

Golygai'r gwaith datrannu hwn ein bod yn digroeni braich yn llythrennol ond fe wneid hynny, wrth gwrs, â'r cyrff a roddasid at wasanaeth meddygon drwy ewyllysiau unigolion.

hoelient eu llygaid ar gorff eiddil ffred ac ar ruthr cynddeiriog yr afon lle suddai pen pellaf y gangen, dim ond hyd braich oddi wrth long ffred, i drobwll dwfn.

Aeth Wiliam Prichard, Braich Dinas, allan i'r llawr i ganu.

Gallai deimlo ei braich yn erbyn ei fraich ef, ei chlun yn erbyn ei goes.

Mae'n bwysig i mi beidio â cholli gobaith." Ond y foment y dechreuodd ei galon godi, teimlodd rywbeth fel braich hir wlyb yn cau am ei wddw.

Yr oedd hynny yn anodd - bod yn gyfeillgar ai chadw hyd braich yr un pryd rhag iddi amau.

Yn un o'r teithiau hyn, cwympodd y ddau gyda'r ceffyl a bu i Marged Jane dorri ei braich.

Y llun gyda'r mwyaf rhyfeddol a welais i mewn papur newydd yn ddiweddar ydoedd un o Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn reslo braich gyda merch ifanc o'r enw Yulia Beganova yn ystod rhyw ymweliad gwleidyddol neui gilydd.

Saith mlwydd oed oedd yr unig ferch ddibriod yn y cwmni, creadures fach â llygaid duon, cudynnau o wallt gludiog, pigog, a'i thrwyn fel rheol heb ei sychu.Ac fel rheol cariai ar ei braich fachgen bach oedd yn ddigon pwysig i wisgo ffe\s coch tywyll.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.