Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brasgamu

brasgamu

Picton Philipps ar yr Uchgapten Stuart i ddanfon mintai fwy o filwyr i'r groesfan, ac felly dyma Gatrawd Caerwrangon yn brasgamu ymlaen a'u bidogau wedi eu gosod ar enau'r drylliau.

Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.

Ar ol iddo gael ei anwybyddu am sbel hir, gafaelodd o'r diwedd yn un o'r dynion a oedd yn brasgamu heibio a holodd pam tybed nad oedd neb yn cymryd sylw ohono ac yntau'n brif arweinydd y wlad i gyd?

Ond er nad oeddynt yn deall eu sgwrs gwelsant wyneb Miss Davies yn newid, a'i llygad yn fawr a syfrdan wrth iddi wylio'r dyn cefnsyth yn troi ar ei sawdl a brasgamu yn ôl at y drws.

'Siwr o wneud, Marian, siwr o wneud.' A chyda hynny, gadawodd John Williams Syfydrin y tŷ a brasgamu tua'r cerbyd.

Maen ddigon drwg cael y gwleidyddion yn cnocioch drws; yn ymweld a ller ydych yn gweithio; yn brasgamu ar draws strydoedd i ysgwyd llaw a chi ac yn blagardio ar deledu a radio - heb gael Cherie a Ffion yn hewian arnom drwy ebost ar eich cyfrifiadur.

Eu pobl nhw, yn Saeson, Ffrancwyr ac Americaniaid, yw'r cymeriadau lliwgar, herfeiddiol a fu'n brasgamu ar draws cyfandiroedd gan adael ar eu hôl ychydig o oglau alcohol, calonnau chwilfriw a biliau heb eu talu.