Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brau

brau

(Gwell egluro mai yn ystod yr eiliadau brau hynny y torrwyd y garw rhyngddynt.) Bu'r pryd bwyd yn eitem ddigon diflas ac roedd amryw resymau am hynny.

Williams fod gan y Ffydd afael ar fywydau dynion, er mai brau oedd yr afael honno ym mywydau'r mwyafrif.

Ond pa mor hir fydd yr hyder newydd yn para a Mr Redwood yn dadbwytho'r consensws brau?

Cryfder haenennau sebon Y farn gyffredinol yw fod haenennau sebon a swigod yn bethau brau.

Torrodd y llinyn brau a fu'n cadw rheolaeth ar dymer Dilwyn.

Mae'r paent ar ei dywyllaf yma lle mae gafael dyn fwyaf brau, dim ond rhyw grafu ar yr wyneb.

Roedd llawr teils y gegin yn oer, a hithau'n droednoeth, a hen beth digon brau oedd y goban wen.

Ceir amrywiaeth eang o wymon yma hefyd ac os crwydrwch ar y creigiau rhwng y ddau fae, chwiliwch am redyn bychan, brau, duegredynen arfor, a'r cen oren.

Byddai disgwyl iddo anwybyddu protest taer ei nerfau brau a rhoi ei raglen o flaen ei ofnau.

Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif mae sefyllfa'r Gymraeg yn ddigon brau a bregus.

Dyma gyd-drawiad o arwyddocad arbennig i un enaid brau ymhlith lluoedd epiliaid Efa ac Adda.

Pe medrai, mynnai adfer poethder yr hen hafau i'w wythiennau brau.

Yn ol Hywel ystorm, ef oedd 'Llafn angau brau bro Gynffig.' Ymryson barddol, ond odid, a geir yn yr awdl uchod.

Y deiliach a aeth â'i bryd, rhai bach, rhai mawr, brau, crin, oll yn lliwgar fel cychod mewn regeta.

Dyna lle bu system Freud yn gymaint o bandy ac o sgwrfa didrugaredd i'm delfrydau brau Pa ryfedd nad oedd dim o'm carpiau ar ôl wedyn ond ambell gydyn o ridens cyfroda na fyddai fyth mwy yn dda i ddim?) Roedd blwyddyn goleg newydd yn dechrau ym mhen ychydig iawn o wythnosau ar ôl y Cyfarfod Misol hwnnw A'r peth cyntaf bron a wnes wedi cyrraedd Aberystwyth oedd mynd â'm "hymddiswyddiad" (maddeuer y gair ymddiswyddiad!) i Brifathro Coleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd.