Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brecknock

brecknock

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

O gyfnod cynnar iawn galwodd y Normaniaid a'r Saeson y dref hon hefyd yn Brecknock neu Brechonia neu Brecon.

Dros y canrifoedd y ffurf Brecknock a arferwyd amlaf a dim ond yn lled ddiweddar y daeth y ffurf Brecon yn boblogaidd.

Aberhonddu/ Brecknock/Brecon