Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bregethwyr

bregethwyr

Bu adeg pan reolwyd ein llenyddiaeth gan bregethwyr - yn awr disgwylir i bob aelod o staff adrannau Cymraeg y Brifysgol fod yn llenor, bron na ddywedwn bawb sydd wedi graddio yn y Gymraeg.

Yn ychwanegol at hynny credai amryw nad oedd angen addysg academi na choleg ar bregethwyr a wasanaethai'r ardaloedd gwledig.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

Dichon nad ystyriodd dwsinau o bregethwyr ei bod hi'n werth printio geiriau a oedd eisoes wedi cyrraedd dustiau eu gwnndawyr mewn ffordd haws o lawer.

Ac rwy'n synnu na fyddai llywydd y Kirk wedi pwysleisio hynny yn ei apêl am bregethwyr tanbaid.

Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Buasai'n barod yn cynnal dosbarthiadau i bregethwyr yno gyda'r cenhadwr.

Galw yr oedd o am i bregethwyr heddiw roi mwy o dân yn eu prgethau trwy astudio dulliau ambell i hoelen wyth fel Billy Graham ac areithwyr mawr fel Winstone Churchill, John F. Kennedy a Martin Luther King.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Ond nid gwaith hawdd oedd gwneud hynny gan fod y cyflenwad o bregethwyr yn llawer iawn mwy na'r galw yr amser hwnnw.

Yn wir, nid oes dim sy'n llefaru'n fwy eglur ar berthynas Methodistiaeth a'r eglwysi Annibynnol yng ngogledd Cymru yn y cyfnod hwn na'r ffaith fod yr un teulu wedi magu dau blentyn a enillodd le iddynt eu hunain fel prif bregethwyr dau enwad, sef Henry a William Rees.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Yno hefyd y sicrheais res o gofiannau prin i bregethwyr y Cyfundeb, cofnodion Sasiynau cynnar a llond bocs o bregethau rhai o'r "hoelion wyth".

Gellid llunio rhestr faith o bregethwyr grymus ond y mae enwau rhai'n amlycach na'i gilydd.

Bu Brynmulan yn llety i bregethwyr fel Howel Harris a Daniel Rowlands tra bu Ann Parry'n fyw.

Teimlai pobl Allhallows the Great, yr eglwys a roes gartref i'r Cymry alltud yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Cartref, ei bod yn ddylestwydd arnynt anfon chwech o bregethwyr i gynorthwyo yn y gwaith.

"Yn nwylo'r bagad o bregethwyr a chlerigwyr, yn gystadleuwyr a beirniaid, a'i cynhaliai ni allai'r eisteddfod lai na bod ar bob gwastad, yn sefydliad ymatalgar a byddai'n annichon i feirdd a llenorion y dosbarth gweithiol a fynnai 'ymddyrchafu' drwyddi droseddu yn erbyn chwaeth...

Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.