Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breichiau

breichiau

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.

Rwyt ti'n mynd i ffermio!" Rhuthrodd ato a lapio'i breichiau am ei wddf.

Cysegrodd ei bywyd i wasanaethu - bu'n gwasanaethu yn ardal Llandudno am rai blynyddoedd, ac yna dychwelyd yn ol i'r hen gartref Cwr y Coed, Trefriw lle roedd croeso breichiau agored bob amser i bawb a alwai heibio.

Dechreuodd feichio crio wedyn a brysiodd Sharon ati hi a mynd i roi ei breichiau am ei gwddf.

Hawdd iawn yw codi breichiau mewn arswyd at y ffaith fod copa'r Wyddfa ar werth.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

Syrthiodd yn syth yn ôl i'm breichiau.

Codai'r milwyr eu breichiau yn hapus wrth weld awyrennau o Brydain yn hedfan uwch eu pennau yn Dunkirk.

Er y gall technoleg fod yn werthfawr iawn i gynnig 'breichiau a choesau' newydd i bobl, dydi ail-osod cymalau colledig neu gymalau a nam arnynt ddim ynddo'i hun yn arwain at fyw'n annibynnol.

Erbyn hyn roedd breichiau pawb yn dechrau brifo ac roeddynt oll, o hir wthio, yn hynod sychedig.

Doeddwn i ddim yn mynd i godi o'r gadair fach yr eisteddwn ynddi er iddi wneud ei gorau glas i ryddhau fy nwylo oddi ar y breichiau.

Ac, fel petai i brofi ei phwynt, dyma hi'n chwifio'i breichiau.

Yn y fath sefyllfa roedd Joni a Sandra fel dau o bethau gwirion, yn neidio ac yn prancio, yn chwifio'u breichiau ac yn gwneud ystumiau o bob math.

Gydag un ohonynt yn ei breichiau, un arall mewn siôl ar ei chefn, a'r llall yn gafael wrth odre ei sgert aeth i'w lluchio'i hun i'r gamlas oedd yng nghefn un o'r strydoedd.

Safai o hyd ar flaenau'i thraed tua hanner ffordd ar draws llawr y gegin, yn ei choban wen, a'i breichiau ar led fel petai ar ganol cofleidio rhyw berson anghwmpasadwy, a'i llygaid wedi rhewi'n fawr a chrwn fel dau blât piwtar.

Mae un siliwm gyda'r breichiau dynein bach mewn cyfeiriad clocwedd yn paru a siliwm a'i freichiau'n pwyntio i gyfeiriad gwrthglocwedd; dengys hyn eu bod yn dod o badiau gwahanol.

Plygodd ei breichiau a gofyn: "Got anywhere to stay?" Roedd hi'n hen bryd iddo hel ei draed o grafangau rhyw garidym 'run fath a hon.

Dy gario di bob cam ar fy nghefn." Chwarddodd y Cripil yn llawen o fewn clydwch y breichiau mawr.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

Dada yn gyrru a Mam a'r babi yn ei breichiau ac un o'r lleill yn y

Ymhellach, mae'r breichiau hyn bob amser yn pwyntio mewn cyfeiriad clocwedd wrth edrych arnynt o waelod y siliwm.

Tybir bod y llithro rhwng ffibrilau sy'n gysylltiedig a'i gilydd yn deillio o weithgaredd y breichiau dynein.

Trodd i weld Glenys yn estyn ei breichiau i'w gofleidio.

Llafur breichiau caethwas bwrcasodd eich lleni o sidan a moreens o liw glas, porphor ac ysgarlad; a'ch carpedau amryliw o weithdai Kidderminster a Brussels.

Mewn rhai ardaloedd roedd ceffyl yn cael eu gwaedu, ond mewn rhai eraill arferai llanciau ifanc redeg ar ôl morynion neu ferched eraill o'r un dosbarth gan chwipio eu breichiau â chelyn nes eu bod yn gwaedu!