Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breuddwyd

breuddwyd

Ond breuddwyd gwrach ar ôl uwd ydoedd fel y gwelais yn o fuan.

Hanes gardd yn troi'n anialwch, breuddwyd yn troi'n hunllef.

Holl ddigwyddiadau'r noson cynt; breuddwyd llygad Duw, ei chynnwrf gyda'i thad, ymdrech y gof i ymgrogi a nawr eto llais bach Robin a llythyr Hannah.

Breuddwyd Iolo oedd sefydlu cymdeithas a fyddai yn hollol agored i bawb a fynnai chwilio am wirionedd crefyddol, heb ofyn am unrhyw amlyniad i gredo na dogma.

Breuddwyd arall.

Diolchais i Dduw am y ddau brofiad anghyffredin a gawswn, gan wybod na fyddai "ond unwaith prin i'w dyfod hwy." Daeth trydydd ymweliad gan golomen wen mewn breuddwyd neu weledigaeth.

Breuddwyd Justine Merritt oedd gweld y Rhuban Heddwch yn amgylchynu'r Pentagon, sefydliad milwrol yr UDA.

Dilynodd The Man Who Jumped to Earth yr anturiaethwr 61 mlwydd oed Eric Jones o Dremadog i Venezuela wrth iddo wireddu breuddwyd oes i neidio o Raeadrau Angel sy'n 3,212tr o uchder.

Breuddwyd Hedd Wyn oedd ennill y Gadair ond bu raid iddo frwydro yn erbyn nifer o anawsterau.

WS Owen, Cricieth, yn rhoi sgwrs ar Seicoleg ac yn ceisio egluro peth mor fyr yw breuddwyd er i ni feddwl ein bod wedi breuddwydio drwy'r nos.

A dyna'r tro cyntaf i gymysgedd o deimladau fynd ar draws ei gilydd þ siom a hiraeth, ac yn fwy na'r cwbwl tosturi am fod breuddwyd rhywun arall wedi'i ddinistrio þ er mai dim ond berfa oedd o.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Mae'r flwyddyn 2000 yn 600 mlwyddiant ymgais Owain Glyn Dðr i wireddu ei dair breuddwyd fawr dros Gymru, sef Prifysgol, eglwys annibynnol a senedd i Gymru.

Ond mae o fel petai o mewn breuddwyd hanner yr amser.

Breuddwyd cas, mae'n debyg.' Daeth golwg gythryblus i lygaid y ficer.

Mae gwaith aentio Gwynedd ap Tomos wedi dod yr un mor adnabyddus a phoblogaidd erbyn hyn â'r gwaith arloesol y mae hi a'i gŵr Dafydd ap Tomos wedi ei wneud ac yndal i'w wneud i wireddu'r breuddwyd o greu yr oriel ym Mhlas Glyn-y-Weddw.

Breuddwyd sy'n ddwyflwydd oed.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.

Breuddwyd un dyn oedd Antur Waunfawr - trodd yn freuddwyd i bentref cyfan.

"Mae'r cyfan drosodd fel pob breuddwyd."

OHERWYDD digwyddiadau cyffrous y noson gofiadwy heno - ei breuddwyd ryfedd, ei phrofiadau unwaith eto o agosrwydd ei thad ac ymdrech Owen Jones druan i fynd at ei Arglwydd - am i'r pethau hyn ei chynhyrfu, bu llythyr Hannah'n ddigalondid ychwanegol.

Yn achos Rhyfel y Gwlff, roedd gyda ni ddiddordeb arbennig yn safle'r Cwrdiaid oherwydd eu cyflwr cenedlaethol a diwylliannol ond fe gododd breuddwyd o sefyllfa hefyd, o safbwynt rhaglen Gymraeg.

Mewn breuddwyd cafodd y ddau ddiod gan angel ac fe drowyd Maelon yn lwmp o rew.Cafodd Dwynwen dri dymuniad gan yr angel, a'r cyntaf oedd i Faelon gael ei ddadmer.

Cymysgwch oedd popeth, fel breuddwyd, y cyfan yn digwydd mor gyflym.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Yn eu breuddwyd try'r tyddyn yn ardd ffrwythlon.

Perfformiad o Breuddwyd Gerontius dan arweiniad Owain Arwel Hughes.

Ac nid breuddwyd rhiant ddylai hynny fod, na delfryd gwleidyddol, ond nod realistig a hawl naturiol plant y presennol a'r dyfodol.

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.