Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

breuddwydio

breuddwydio

Dyma Waldo'n breuddwydio un noson.

Tra oedd y beirdd yn breuddwydio am gnawd a 'thrwsiad glana'r oesoedd' 'roedd y merched protestgar yn gwisgo gwisg wahanol iawn.

WS Owen, Cricieth, yn rhoi sgwrs ar Seicoleg ac yn ceisio egluro peth mor fyr yw breuddwyd er i ni feddwl ein bod wedi breuddwydio drwy'r nos.

Yn wir ni fyddent wedi breuddwydio am wneuthur hynny gan fod yr Eglwys yn dysgu nad oedd rhaid i neb allu darllen yr Ysgrythur er mwyn dod i afael y cadw.

Cymdeithas sy'n ymddiried yng nghynneddf y rheswm yw'r gymdeithas gomiwnyddol, ac fel y proffwydodd Goya ddwy ganrif yn ol 'mae'r rheswm yn esgor ar anghenfilod unwaith ei fod e'n dechrau breuddwydio.'

'Roedd rhai o'r aelodau hyn nad oedd ganddyn nhw ddim Cymraeg, ond na fuasen nhw byth wedi breuddwydio mynd i gapel Saesneg, gymaint oedd eu teyrngarwch i'r gymdeithas yn y Crwys.

Y mae'r syniad o Baradwys mor aml â blas, a gallu dyn, a'i ddychymyg i feddwl a breuddwydio am y lle perffaith iddo ef ei hun.

Ti sy'n breuddwydio eto.

Ond, dim ond technoleg ifanc yw mynd i'r gofod i edrych ar y sêr, ac yn y degawdau nesaf dylem ddatblygu'r gallu i ymchwilio'r bydysawd mewn manylder nad oedd Galileo hyd yn oed yn gallu breuddwydio amdano.

Breuddwydio am fywyd mwy hamddenol?

Yma y cai Elisabeth gyfle i hel atgofion a breuddwydio ac i fwynhau ychydig o ryddid oddi wrth y dyletswyddau teuluol oedd wedi dod yn rhan o'i bywyd ers claddu ei thad, yr yswain Richard Games.

Ni fyddai'n breuddwydio mynd i bysgota hebddi rhag ofn iddo gyfarfod ƒ Llew Williams y Cipar, hen ddyn annifyr nad oedd neb yn y pentre yn ei hoffi ...

Ni fuasai erioed wedi breuddwydio am geisio 'sledjo' batwyr, fel y gwneir heddiw, ac mae dyn yn synhwyro nad oedd tactegau dan-dîn a chwaraeyddiaeth Wilfred Wooller at ei ddant ychwaith.

Hanes Megan yn mynd am wyliau i Abergwaun at ei thaid sydd yma, lle mae'n gallu gweld y llongau'n hwylio am Iwerddon a breuddwydio am ddod o hyd i neges mewn potel ar y traeth.

Unwaith eto gellir breuddwydio am ddarpar gymar drwy fynd i fynwent hollol ddieithr, torri ychydig o ywen a'i osod o dan y gobennydd.

Doedd hi ddim yn breuddwydio y byddai neb yn ceisio'u hatal.

Roedd o'n digwydd o hyd ac o hyd mewn trefi a phentrefi, ond doedd o erioed wedi breuddwydio am wneud y fath beth ei hun!

Ambell dro troi a throsi am hydion, ychydig funudau o gysgu a breuddwydio hiraethus ac yna dihuno drachefn a'r breuddwyd gynnau'n deffro pryderon amdanynt gartref.