Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bri

bri

Ond y ffaith amdani, wrth gwrs, oedd fod yna wrthddywediadau yn rhedeg fel llinyn drwy'r wasg Gymreig yn oes ei bri.

Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.

Ni ddaw dygasedd brad na ffalsedd bri I frathu'r fron.....

Pan oedd eu hymerodraethau yn eu bri, mater o hwylustod wrth weinyddu oedd mynnu mai iaith y goresgynnwr oedd yr unig iaith swyddogol yn y diriogaeth.

Wedi ennill bri ac wedi cyflawni pob gorchest, mae'n ymfodloni 'gan nad oedd neb a dalai arfod [brwydr] yn ei

Proses ddamweiniol bron oedd hi, ac yn wir, parhaodd Lladin yn ei bri fel cyfrwng mynegiant ochr-yn-ochr a'r cynnydd yn yr ieithoedd brodorol, o leiaf mewn rhai meysydd.

Wrth bwysleisio'r Gymraeg a Chymreictod rhoddir statws iddynt ym mywyd a gwaith beunyddiol yr ysgol a rhoddir bri arnynt yng ngolwg y gymdeithas.

Yn y man daeth y gymdeithas hon i osod bri mawr ar y 'barchus arswydus swydd', ac y mae'n wir dweud y dibynnai'r gweinidog bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da a theyrngarwch ei gynulleidfa.

Credai L Chr Stern fod beirdd Cymru yn y ddeuddegfed ganrfi a'r drydedd ar ddeg yn gwybod am y farddoniaeth a oedd yn ei bri yn Ffrainc, a'u bod wedi dod dan ei dylanwad; a pharthed Dafydd ap Gwilym, efallai nad oedd yn uniongyrchol ddyledus iddynt, ond am ei ddyled anuniongyrchol nid oedd dim amheuaeth.

Fel yr enillai'r Saesneg dir croeso a bri ar bob llaw, haerai'r beirdd fwyfwy fod serchiadau'i chynefin yn dynnach nag erioed am y Gymraeg.

Doedd dim bri mwyach ar addoli Duw.

Ond y mae hanes yn bwnc sydd wedi cynyddu mewn bri yng Nghymru yn ystod yr wythdegau, ac wedibod yn destun trafod brwd, fel petai bellach yn bwnc gwir berthnasol inni oll.

Mae Sefydliad y Merched Sant y Brîd yn ffodus i gael ymhlith yr aelodau dwy sy'n trefnu blodau yn broffesiynol.

mae Gal yn son am y siaradwyr/-wragedd Hwngaraidd sy'n 'dewis' siarad Almaeneg am eu bod eisiau 'statws a bri', ond nid yw'n cysylltu'r anghyfartaledd rhwng y ddwy iaith i leoliad grym o fewn y strwythur cymdeithasol ehangach).

Doedd neb yn gwybod yn iawn beth oedd eu brîd nhw ond dyfalai Seimon fod rhywfaint o derier yn Cli%o, 'ac mae pawb yn gwybod bod gan derier galon cymaint â bwced,' ychwanegai.

Daeth Ysbrydegaeth, er enghraifft, yn faes i'w ystyried o ddifrif; y mae cyfarfodydd se/ ance mewn bri; sonnir yn aml am poltergeist (gair Almaeneg yn golygu 'ysbryd swnllyd'); cynhelir gwasanaethau yn eglwysi'r Ysbrydegwyr; a cheir galw cyson am wasanaeth gwr megis Y Parch.

Dechreuodd y cardotyn ymosod ar y wledd ac roedd sbort a bri y cwmni wedi diffodd fel cannwyll mewn corwynt erbyn hyn.

Dechrau hel yr wyn benyw Miwl a Hanner-brîd at ei gilydd i'w cadw mewn porfeydd gwell ar gyfer yr arwerthiannau fis Medi.

Ar yr un pryd gosodwyd bri newydd ar hanesyddiaeth Gristionogol, h.y., hanes fel amlygiad o weithredoedd Duw.

Deddfir "Na byddo iddynt bri%odi un digred, na dilyn erferion anllad llygredig y byd yn eu rhag-gyfeillach, ac yn eu mynediad i'r 'stad briodasol".

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.

Os oeddynt yn ymfalchio yn eu cenedl a'u gwreiddiau gwerinol, meddai, yr oeddynt yn siarad Hwngarian, ond yr oedd y rhai oedd eisiau statws a bri yn y gymdeithas yn dewis siarad Almaeneg.

Tyddewi, wrth gwrs, oedd prif gyrchfan y pererinion yng Nghymru, er na allai gystadlu o ran braint a bri â Sain Siâm neu Rufain neu Gaersalem dros y môr.

Nid yw'r enw yn digwydd wedyn am rai canrifoedd, ond y mae'n alwg ei fod mewn bri ar ddechrau'r seithfed ganrif.

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.

Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd syniadau Rhamantaidd am y Groegiaid yn dal mewn bri yn Lloegr, ond hyd y gellir gweld, go brin yr oedd y rhain wedi cyrraedd Cymru o gwbl.

Mae'n wir fod y nofel hanes yn dal ei bri, ac mai tuedd honno ar y cyfan yw bod yn rhamant hanesyddol sy'n darlunio corneli o'r gorffennaf heb ddehongli'u harwyddocad.

Erys bri ac urddas ynghlwm wrrth enw Arthur o hyd, ac y mae'n werth gan y bucheddwr gyfeirio ato fel un a roes ei nawdd i'r eglwys leol.

Craffer ar eiriau Powel ac fe welir mai'r hyn sy'n waelodol bwysig yw'r clod a'r mawl i Arthur: yr oedd ar y Cymry, mae'n amlwg, angen y parch a'r bri a ddoi iddynt yn sgil yr hanes.

Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.