Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brifwyl

brifwyl

Eithr nid ym Mhwllheli yn unig y bu anniddigrwydd; daeth yn glir fod eraill, yn gysylltiedig ag uchel-lysoedd y Brifwyl, yn teimlo'n anesmwyth iawn oherwydd swm yr arian ychwanegol a dalwyd i'r Ysgrifennydd Cyffredinol.

Maen nhw'n gwrthod dadl yr Eisteddfod fod rhaid cadw'r enw swyddogol er mwyn diogelu statws elusennol y Brifwyl a ffynonellau ariannol.

Fel Theophilus ei hun y mae gwreiddiau'r Athro Jenkins yn sir Aberteifi, ond Brycheiniog oedd y winllan y bu Theophilus yn llafurio ynddi am ran helaeth o'i oes ac yn Llangamarch y mae wedi ei gladdu, a hynny heb fod nepell o faes y Brifwyl eleni.

Nid oedd yr ardal yn un boblog a chofiaf Ernest Roberts yn pwysleisio droeon petai Pwllheli yn methu talu ei ffordd, y byddai hynny'n ddiwedd ar unrhyw obaith am gynnal y brifwyl mewn cylch gwledig o hynny ymlaen.

Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Mae Canrif o Brifwyl yn adrodd hanes Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif drwy gyfrwng yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cynghorau lleol yn cael yr hawl i roi cyfraniadau ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol pan gynhelid y Brifwyl yn eu hardaloedd nhw.

Am y tro cyntaf erioed ceir o leiaf ddeg awr o deledu bob dydd yn fyw o'r Brifwyl.

Yn y rhifyn a gyhoeddwyd ar ddydd y cyfarfdo bu'r Cymro, o dan y pennawd 'Bwgan Costau'r Brifwyl', yn tynnu sylw at bryder cynnyddol.

Gydag ymwybyddiaeth drom o'r cyfrifoldeb dechreuodd y Pwyllgor Gwaith drefnu'r Brifwyl.

Dau lyfr Canrif o Brifwyl gan Alan Llwyd, Cyhoeddwyr, Barddas.

Cyflwynwyd Canrif o Brifwyl mewn pedwar cyfrwng; teledu a radio yn ystod Chwefror a Mawrth 2000, a mewn arlein a dau lyfr.

Cyflwynodd y cynhyrchwyr annibynnol Antena Canrif o Brifwyl ar S4C a BBC Radio Cymru.

Ni fu gwell darpariaeth deledu o unrhyw Brifwyl erioed o'r blaen.

Pe dywedem na buasai gwneud pob ysgrifennydd cyffredinol a fu i'r Brifwyl yn farchog ar ddiwedd wythnos gyntaf Awst yn ddigon o anrhydedd iddo ni buasem yn dweud gormod.'

Alan Llwyd ac Ioan Gruffudd Cafwyd hanes huawdl am newidiadau cymdeithasol yr 20fed ganrif yn Canrif o Brifwyl, cyfres chwe rhan a ysgrifennwyd gan y bardd enwog Alan Llwyd.

Daeth llwyfan y genedlaethol yn llwyfan gwleidyddol unwaith yn rhagor; daeth maes y Brifwyl yn faes y brotest.

Yn y rhaglen olaf byddwn yn ceisio rhagweld dyfodol y Brifwyl.

'Roedd y Rhyfel a'r Brifwyl, llwyfan a chyflafan, yn un.

Mae'n mynd ymlaen i gymharu'r Chwaraeon Olympaidd â'r Eisteddfod Genedlaethol, a chaiff y bardd Groeg Pindar ei osod ochr yn ochr â'r beirdd sydd yn cymryd rhan yn y Brifwyl Gymreig.