Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brig

brig

Yn y grwp, felly, mae Gwlad Pwyl ar y brig gyda 13 o bwyntiau, Belarws gyda deg pwynt a Iwcrain ar wyth.

Castell Nedd, felly, yn colli gartre yn y Gynghrair am y tro cynta ers blwyddyn a mwy a Chaerdydd er yr holl newiadau yn y tîm yn aros ac yn cynnal eu sialens ar y brig.

Tyf llawer ohonynt ar goed yn y trofannau, nid yn isel ar y goeden mewn tywyllwch llaith fel y dychmygwn, ond yn agos i'r brig mewn goleuni da ag awyr iach.

Caiff yr uchafbwyntiau eu dangos fin nos, yn ystod yr oriau brig, gan ddechrau nos Wener gydag uchafbwyntiau Cymru v Ariannin am 8.00pm.

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais llawn - adeiladu modurdy/ gweithdy preifat Cais llawn - estyniad ochr unllawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad cefn deulawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad unllawr i fwthyn a lleoli tanc nwy Cais llawn (diwygiedig) - estyniad unllawr i dŷ yn cynnwys modurdy Cais llawn - estyniad cefn unllawr i ffermdy Cais llawn - estyniad llawr cyntaf i dŷ i greu darpariaeth ar gyfer person anabl a modurdy newydd.

Caniatáu gweithio ar waith glo brig mwyaf Ewrop ar ffarm Selar, Glyn-nedd.

Ni welais i erioed gyfeiriad at gloddio am lo yn yr ardal a, hyd y gwn, nid oes yna unrhyw dystiolaeth fod glo i'w gael dan y ddaear neu ar y brig yno.

Agor gwaith glo brig Betws, Rhydaman.

Cloriannwyd yr ymgeiswyr nid fel unigolion ond fel timau a rhaid oedd wrth gydbwysedd a chydweithio os am ddod i'r brig.

Terfysg yn Rhydaman yn ystod streic gweithwyr glo-brig.

Dechreuodd darnau o graig ddod yn rhydd ac aeth y cilfachau'n llai, ond fe fyddai ar y brig cyn bo hir ...

Mae'n dal yn bosib i Langefni orffen ar y brig, ond bydd raid iddyn nhw ennill y naw gêm sydd gynnon nhw ar ôl.

Mae'r dyn sy'n cael y clod am helpu Ellen McArthur gyrraedd y brig, Rob Humphreys, wedi ymuno ag ymgyrch Prydain yn yr Americas Cup.

Neithiwr enillodd Caernarfon - sy ar y brig - eu gêm olaf nhw, 2 - 0, yn erbyn Cemaes.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Y mae'r Papur Gwyn yn cynnig tameidio'r cyfrifoldebau dros y system addysg yng Nghymru, felly, gan wneud yn anos sefydlu darpariaeth gyd-lynus o'r bôn i'r brig a fyddai'n rhoi hyder i'r disgyblion a'u rhieni fod y ddarpariaeth briodol wedi'u sicrhau ar eu cyfer.

Yn y Cynghrair Cenedlaethol neithiwr - cafodd Y Barri, sydd ar y brig, gêm gyfartal, 2 - 2, gyda Hwlffordd.

Ond wrth anwybyddu'r cyd-destun gwleidyddol a mynnu bod y gamp o gyrraedd y brig o fewn ein gafael fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn ochri, yn anfwriadol efallai, gyda'r status quo.

Yn y Cynghrair Cenedlaethol neithiwr curodd Y Barri, sy ar y brig, TNS 1 - 0.

Mae Caerdydd yn yr wythfed safle yn y Drydedd Adran yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Chesterfield, y tîm sydd ar y brig.

Bydd Caerfyrddin yn codi i'r brig os llwyddan nhw i ennill.

Ni fynnai gerdded y bwrdd efo Merêd i fwynhau'r awel dyner a gwylio brig y llong yn corddi adlewyrchiad y lloer yn fyrdd o fflachiadau arian.

Roedd penderfyniad ITV i symud yn ôl i 10 o'r gloch yn symudiad positif" a fyddai'n dod â"r rhaglen yn ôl i oriau brig.

Fe ddaeth cystadleuwyr Meirion i'r brig yn genedlaethol sawl tro.

Mae Caerdydd yn drydydd yn y tabl, dri phwynt y tu ôl i Abertawe sy ar y brig.

O ran newyddion teledu Wales Today sy'n cyrraedd y brig erbyn hyn fel y llwyfan amlycaf ar gyfer newyddion Cymru ar unrhyw sianel mewn unrhyw gyfrwng.

Ond i'r teithiwr busnes sy'n cyrraedd y maes awyr ac yn llogi tacsi er mwyn cyrraedd ei westy, llwyd a dilewyrch yw'r argraff gyntaf o'r drefedigaeth; heolydd penrhyn Kowloon rhwng y maes awyr a'r twnel i ynys Hong Kong yn dagfa drafffig fyglyd, fflatiau'r pumdegau a'r chwedegau yn salw o'u brig i'w bôn, ysbwriel o'r lloriau uwchben wedi disgyn yn bentyrrau pwdr ar y mân doeon sy'n cysgodi prysurdeb y stryd rhag bygythiad glaw tyrfau'r gwanwyn.

Mae Pobol y Cwm, a gynhyrchir gan BBC Cymru, yn dal ar y brig o ran ffigurau gwylio S4C.

Ei reolwr yw Bill Cayton oedd yn gofalu am Mike Tyson pan oedd ar y brig yn niwedd yr 80au.

Llusgwyd Myrddin a Geraint fel dwy sach o datws i fyny ac i fyny grisiau cerrig serth nes roedden nhw'n brifo i gyd erbyn cyrraedd y brig.

Ymgysylltu â'r ymgyrch yn erbyn glo brig oherwydd y bygythiad o du'r diwydiant hwn i gymunedau ym maes glo'r de.

Mae wedi'i fynegi mewn termau a oedd yn gwbl nodweddiadol o'r dosbarth yna yng nghymdeithas oes Victoria yr oedd ei addysg a'i gefndir wedi ei ragbaratoi i fod ar y brig yn feddyliol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.