Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brinder

brinder

Paid â phoeni am brinder gwaith.

Er bod yr harbwr yn llawn o longau masnach yn chwifio baneri morthwyl-a-chryman yr Undeb Sofietaidd, roedd America yn gwahardd unrhyw fasnach rhyngddi a Chuba, ac roedd yna brinder pob math o bethau.

Cael clwt gan ambell un, ond cael ei wrthod yn amlach; cael ei wrthod yn serchog gan ambell un oherwydd gwir brinder cerrig, cael ei wrthod yn oer gan y llall, a'i wrthod yn ffals gan un arall crintachlyd.

Mae dweud fod Euros yn fab y Mans, er enghraifft, yn rhoi'r argraff ei fod wedi cael rhyw fagwraeth gysgodol a breiniol ar aelwyd na phrofodd brinder o hanfodion byw, a'i fod wedi cael pob rhwyddineb i ddilyn ei yrfa addysgol o'r cychwyn cyntaf.

Dwy orsaf radio annibynnol, Gwent a CBC, yn dioddef o brinder arian ac yn ymuno dan faner Red Dragon.

Yn ystod y flwyddyn, tynnwyd sylw'r Swyddfa Gymreig yn gyson at bwysigrwydd y cynlluniau sydd gan yr awdurdodau i gynnal gwasanaeth athrawon bro a sefydlu canolfannau i hwyr-ddyfodiaid er mwyn goresgyn anawsterau sy'n codi o brinder athrawon a mewnlifiad disgyblion di-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg.

Cyfeiriwyd at brinder dybryd mewn rhai meysydd gan y gweithgorau sector, e.e.

Mae yna brinder pregethwyr heddiw, a thipyn o drafferth yw hi i lenwi'r Suliau mewn llawer eglwys.

Ond brwydr amhosibl bron yw ceisio llenwi bwlch y cymorth a gollwyd o'r Undeb Sofietaidd, a does dim amheuaeth fod yna brinder bwyd yng Nghuba erbyn hyn.

Maen nhw, yr arbenigwyr, yn ceisio profi fod a wnelo dagrau, neu brinder dagrau, ag ambell salwch, yn arbennig briwiau stumog.

Bydd y fath brinder o fara a dŵr fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu pechod.

Er bod llai yn credu heddiw yn y goruwchnaturiol ac mewn hud a lledrith nid oes brinder pobl sydd ar adegau, o leiaf, yn hygoelus, os nad ofergoelus.