Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brisiau

brisiau

Gan mai penwythnos yn unig oedd gen i, byddai'n ddelfrydol hedfan i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd felly dyma ddechrau ar y gwaith o holi am brisiau tocynnau i Gaerdydd a Bryste.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

Chwilio am brisiau tocyn tren i Beijing - bwriadu mynd i fyny am Inner Mongolia dros wyliau Mai.

Ond gellid prynu rhagor o nwyddau tebyg, heb gerdyn, am brisiau uwch.

Y bydd yna ostyngiad o 33 y cant ym mhrisiau ceir cyn bo hir; wrth i brisiau ceir yng ngwledydd Prydain ddod yn debycach i brisiau Ewrop.

Yn ôl adroddiad mewn papur newydd mae hi'n dechrau dod yr un mor ffasiynol unwaith eto i ddadlau dros brisiau mewn siopau a marchnadoedd yng ngwledydd Prydain ag yw i ym masârs a chasbas y dwyrain.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Drwy ddefnyddio cerdyn, gwnaed yn siwr fod pawb yn medru prynu cyfran teg o nwyddau angenrheidiol am brisiau isel.