Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brithyll

brithyll

ond yn ddiweddarach ychwanegwyd y brithyll enfys poblogaidd...

cyn hynny yn niwl y cynoesoedd ardal lle crwydrai y dyn cyntefig o hendref y glannau o gwmpas Gronant, Mostyn a Llannerch y Môr i'w hafodai byrhoedlog i hela ceirw, sgwarnogod, grugieir - a physgota y nentydd a'r hen hen lynnoedd am y brithyll brown naturiol...

Parsel hyfryd a thaclus yw'r cyfnod prydferth o'r flwyddyn rhwng mawrth a Mehefin, pryd y byddaf yn datod y llinynnau ac yn cael pleser o bysgota brithyll mewn llyn, afon a chronfa...

Ond i fyny'r afon i'r dyfroedd oerion y daw'r eog a'r brithyll a chladdu eu wyau yn y graean.

Ymhen dim amser roedd tri brithyll braf arall wedi eu dal, un i Alun a dau i Bleddyn.

Salmo trutta - brithyll môr - sewin - gwyniedyn - penllwyd- brych y dail.

ac yn ddiweddarach y rhydfrithylliaid fel y galwaf y brook trout nad yw'n drowt o gwbl - yn hytrach torgoch o'r Mericia ydyw - Salvelinus fontinalis - ac fel brithyll yr enfys yn boblogaidd gan y pysgotwyr...

Perthyn i'r pysgod gêm - yr eog a'r brithyll ac ati mae'r lasgangen (grayling) ond rhyfeddod y rhyfeddodau yw fod ei batrwm epilio a chylchdro'i fywyd fel y pysgod crâs!!

Brithyll wedi'i ffrio, dyna gawn ni i swper heno.'

Llwyddodd i gael y bachyn o geg y pysgodyn a rhoddodd y brithyll yn “l yn yr afon.

Roedd y brithyll yn yr afon yn dywyllach na rhai o afonydd eraill, ac yn fwy melyn odanynt a'r smotiau ar eu cefnau yn goch tywyll.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Dechreuodd y pysgod frathu ac ymhen dim roedd Bleddyn wedi glanio brithyll braf.

ac yn gwingo wrth y bachyn roedd brithyll braf.

Cawsom oriau bwygilydd o bleser hefyd wrth bysgota llysywod yn afon Soch a brithyll bychain yn afon y Felin a lifai o lyn y gwaith dwr.