Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

broblem

broblem

'Roedd trefniadau gweinyddol aneffeithiol neu ddryslyd er ymdrin â cheisiadau cynllunio neu gofnodi ac ystyried gwrthwynebiadau yn broblem mewn rhai o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt.

A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem.

Ymdrinia'r nofel hon â hen broblem oesol ac un sydd ar gynnydd heddiw yn ôl y sôn – sef trais o fewn perthynas.

Ei broblem ar hyn o bryd, serch hynny, oedd fod angen bwyd arno.

Y Palas Llundain, Dydd Llun Annwyl Llefelys, Dim ond nodyn byr i ddweud fod gen i dipyn o broblem yma yn Ynysoedd Prydain ar hyn o bryd, - wel, tair a bod yn fanwl gywir.

Wythnos ar ôl y cyfarfod roedd golygyddol Y Cymro yn canolbwyntio ar y broblem.

Gellir gweld atyniad yr algorithm genetig - nid oes angen rhaglennu'r camau datrys yn uniongyrchol, sy'n broses faith a llafurus, dim ond diffinio 'DNA' yr 'unigolion' yn ôl y broblem, a chael rhyw ffordd o fesur pa mor dda yw cyfuniad arbennig o'r wybodaeth 'enetig' yn y 'DNA'.

"Mae llawer o'r merched sy'n gwneud hyn yn sâl, yn diodde' fwy na thebyg o broblem seiciatrig.

Roedd yr ail broblem wedi ei setlo.

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

Dim syndod, felly, taw diffyg tai i'r gweithwyr oedd prif broblem yr awdurdodau lleol.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

'Yn aml iawn, mae chwilio ar y We yn Gymraeg wedi bod yn broblematig,' meddai Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 'ac mae'r Chwilotydd yn datrys y broblem mewn ffordd ddyfeisgar a syml.

'Y broblem - fel mae Dylan wedi son - yw cael pobol i ddod i'r gemau ar brynhawn Sadwrn ar y funud.

Un broblem arbennig yn codi o'r datblygiad hwn yw'r ymrafael rhwng yr amatur a'r proffesiynol ym maes archaeoleg môr.

Dreigiau sydd wrth wraidd dy ail broblem di yn ôl pob tebyg.

Yn yr Almaen, mae ymosodiadau'r 'Neo-Natsi%aid' ar bobl o dras estron yn parhau, ond cau eu llygaid ar y broblem y mae'r llywodraeth fel y rhan fwyaf o Almaenwyr, yn ôl MARION L™FFLER o Berlin.

roedd y ddwy ferch yn gallu symud a chymdeithasu ym madrid heb unrhyw broblem am eu bod nhw'n brydferth ac yn ddieithriaid.

* * * * * "Reit, yr ail broblem, y dreigiau yma sy'n sgrechian," meddai Llefelys.

Ym marn rhai aelodau o'r Bwrdd ei hun, y broblem oedd fod y newid wedi digwydd yn ddifrifol o gyflym - roedd hi'n ymddangos ar y dechrau fod hyd yn oed fudiadau fel Merched y Wawr yn cael eu gwrthod.

Yn wir, y broblem fawr yw gwybod beth i'w dorri allan.

I oresgyn y broblem, bu gweithwyr maes yn gosod oel llwynogod o gwmpas safleoedd nythu, i rwystro mamaliaid rheibus, ac mae'r canlyniadau hyn yma'n galonogol.

Y broblem yw cadw'n fyw tan y gwanwyn.

Wyneba'r broblem.

I'r arweinwyr, roedd y llwyddiant dirybudd yn gymaint o broblem ag o glod.

Iddi hi, mae difrifoldeb y broblem yn ei gwneud hi'n anodd rhannu'r optimistiaeth gyffredinol ynglŷn â dyfodol y wlad.

Ond y mae'n hi'n broblem sy'n gallu bod yn un gas iawn hefyd, yn enwedig os oes yna bobl ddiarth yn aros yma.

Ar yr un pryd, ymdrechodd llawer un i geisio tynnu sylw at y broblem o gerdded ar hyd y briffordd.

Y mae un ffordd hawdd o ddatrys y broblem hon.

'Diffyg creu yw'r broblem fwya ond ro'dd hi'n dda gweld ni'n sgori ambell gais ddydd Sadwrn dwetha.

Y prif broblem oedd dull yr ymchwiliad; eisoes bu sawl ymdrech i ddarganfod gweddillion llongau yn aflwyddiannus oherwydd y cerrynt cryf a maint y Swnt ei hun.

Mae'r drydedd broblem yn broblem sy'n effeithio arnaf i, o fewn y palas, a neb arall, diolch byth.

Ond yn yr achos hwn doedd hynny ddim yn broblem.

Daeth haul ar fryn gan i Myrddin Morgan o gwmni MLM glywed am y broblem, a/ c yn yr wythnose hynny, roedd y cwmni yn cwbwlhau adeiladu stad fach o dai unllawr yng Nglan-y-fferi.

Yn gyntaf, rhaid ystyried y broblem wleidyddol ganolog a oedd yn codi.

Mae dwy wedd amlwg iawn ar y broblem.

'Mae'n dipyn o broblem,' meddai Brian Owen, rheolwr Clwb Pêl-droed Llangefni.

Clywir llawer yn cwyno fod bywyd yn broblem, yn enwedig wrth drafod pethau fel dyfodol rygbi rhyngwladol Cymru, tîm criced Lloegr, grantiau ymchwil, etc.

Mae ambell broblem yn gyfarwydd i newyddiadurwyr a gweithwyr y cyfryngau ymhobman ond eu bod yn cael eu gwneud yn amlycach trwy fod mewn gwlad dramor.

Mae'r broblem o Gapeli yn uno yn broblem fawr iawn.

Daeth llawer o Iythyrau o gefnogaeth inni, a chododd ein calonnau wrth eu darllen--un gan Arolygydd Ysgolion wedi ymddeol, rnai gan ardaloedd eraill a oedd yn wynebu'r un broblem a mai gan addysgwyr profiadol.

Ac ar ôl cyfarfod rhwng Undeb Rygbi Cymru a chynrychiolwyr y clybiau neithiwr mae gobaith bod y broblem ynglyn â strwythur y tymor nesa yng Nghymru wedi'i ddatrys.

Bu ceisio cyfleu hanes digwyddiadau a oedd yn gydamserol mewn nifer o fannau gwahanol yn broblem i stori%wyr llafar erioed, a hynny am resymau amlwg.

Ym myd natur, nid yw'r holl DNA yn cael ei fesur er mwyn datrys rhyw broblem benodol.

Wrth ysgrifennu nid yw dyfodol y cytundeb yn gwbl sicr, ac fe allai hynny fod broblem fawr i'r iaith, ond mae ymgyrchwyr yn weddol sicr fod yr agwedd tuag at y Wyddeleg wedi newid yn llwyr erbyn hyn.

Disgwylir y bydd y trosglwyddiad yn cael ei gadarnhau er gwaethaf un broblem bwysig.

Iddynt hwy, trodd 'problem y Neo- Natsi%aid' yn gyflym iawn yn 'broblem y rhai sy'n chwilio am loches'.

Hoffech chi ddatrys y broblem unwaith ac am byth, drwy fynd a'r mater gerbron llys?

Y broblem oedd, ac yw efallai, fod y gwerthoedd hynny yn gallu bod yn fwy deniadol, ac weithiau gyda mwy i'w gynnig beth bynnag.

Dyna ichi broblem y Dryswch Hunaniaeth wedyn.

Nid oedd hyn yn broblem ar y dechrau oherwydd roedd y tywydd yn sych ond yng nghanol y mis newidiodd y tywydd, felly roedd yn anodd gwario cymaint o amser yn VIC I, er ein bod yn cael ein gwahodd mewn i ystafelloedd pobl, roedd gweddill y plant yn meddwl ein bod wedi eu gadael nhw oherwydd nid oedd yn bosib iddyn nhw fynd i mewn i'r ystafell.

Edrychwyd ar broblem tai haf yn yr ardal.

O dderbyn syniad Layard am natur Culhwch ac Arthur fel Ego a Hunan yr un person, fe ddatrysir y broblem, i raddau helaeth.

Ei gyfraniad mawr i lywodraeth yr Eisteddfod oedd ei allu i edrych ar broblem o sawl cyfeiriad, o safbwynt ariannol, o safbwynt trefniadol, ac o safbwynt celfyddydol, ac arwain ei gydgynghorwyr yn y diwedd at benderfyniad y byddai'r budd mwyaf ohono yn deillio i'r eisteddfodwr cyffredin.

Y broblem fawr yn y Dwyrain Canol oedd cael caeau digon mawr - ac roedd hon yn broblem ddieithr iawn i mi.

Yn yr haf, cholera yw'r broblem, yn y gaeaf, typhoid a diffyg bwyd.

Yn ôl - - efallai mai'r broblem yw fod y cyflogau uchaf heb godi digon.

Mae gan Y Barri broblem wrth baratoi am eu gêm yn erbyn T.N.S. (Llansantffraid) yn rownd wyth ola'r Cwpan Cenedlaethol ar Barc Jenner nos yfory.

Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg.

At hyn yr oedd y broblem sylfaenol yn wahanol.

Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.

Fodd bynnag, dywedodd Markus Donsbach, rheolwr cyffredinol y Celtic Royal a mab-yng-nghyfraith i Mr White na fu yna broblem erioed gyda'r Gymraeg.

Byddai clustnodi dyraniad arbennig i'r Gymdeithas i'w sianelu i'r ardaloedd yma yn fodd i weithredu'n adeiladol i gyfarfod â'r broblem gynyddol yma yn ein cymunedau.

Yng ngeiriau un o asiantau'r Cenhedloedd Unedig, 'Mae arbenigwyr o'r farn mai'r system hon yw'r un fwyaf cywir o'i bath yn y Trydydd Byd.' Y broblem, dro ar ôl tro, oedd bod gweddill y byd yn gwrthod cymryd sylw digonol o'r rhybuddion.

Yn y Gymru sydd ohoni heddiw, nid oes ateb llenyddol i'r broblem lenyddol.

y broblem yw penderfynu pryd y mae stori yn tyfu'n ddigon hir i fod yn nofel ond gwastraff amser yw poeni am bethau fel na.

Y broblem fwyaf ydy nad oes yna ddigon o bobol yn mynd yno.

Dyrna'r broblem a drafodir gan J.

Roedd yr olygyddiaeth yn broblem, ac nid peth hawdd, o edrych yn ôl, yw bod yn sicr pwy oedd y golygydd cyntaf hyd yn oed.

Yn achos Ysgol Waterston, roedd yn ateb y broblem o ddiffyg lle i blannu ar safle ysgol fechan nad oedd ganddi ond iard chwarae fechan.

Ac nid dylanwad gwareiddiad mawr dros un bach yn unig sy'n gyfrifol am y broblem.

Ei broblem fwyaf oedd nad oedd ganddo'r wybodaeth i ddatrys y problemau hyn, ond gwyddai y câi hyd i rai atebion yn Nofa II.

Dyna'r math o ŵyrdroad enaid a meddwl sy'n wynfyd o broblem i'r seiciatrydd, ond y mae'r ysbryd ar gynydd yn Neau Cymru a gall frysio diwedd yr Eisteddfod.

Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.

Cafodd gryn dipyn o broblem gyda dewis enw ar y cychwyn gan mair enw cyntaf oedd Joyrider ond, yn fuan, fe ddaeth y newyddion fod yna grwp arall o'r un enw a gorfodwyd y grwp o Gaernarfon i newid yr enw i Evans.

Edrychasom hefyd ar y broblem ynglyn â Thy'r Ysgol a oedd yn wag ers blynyddoedd.

'Does ond gorfod mynd i rai o draethau Cymru i ddarganfod y broblem, sef llygredd.

SC Dyna'r broblem.

Fe gre " ir 'byd' newydd ym meddalwedd y cyfrifiadur - byd lle mai'r amgylchfyd yw'r broblem y mae angen ei datrys, ac esblygiad yw'r broses o ddarganfod yr ateb.

Yn achos y projectau blaenoriaeth, rhoddir amlinelliad bras o'r math o waith y gellid ei gyflawni yn nhermau: a) y broblem i'w hystyried, a b) y camau ymchwil i'w dilyn.

Dyma ran o broblem y cynllun presennol o enwi syn dibynnu ar y chwaraewyr neur clybiau i wneud y cyhuddiadau gan nad oes gynllun derbyniol i weithredu ar eu rhan.

(Rhaid cofio mynd i lofnodi'r ewyllys fore Mercher.) Chefais i 'run broblem heddiw yn yr ysbyty.

Roedd cael ty ar osod wedi bod yn dipyn o broblem, gan nad oedd modd i ni brynu ty y pryd hwnnw.

Cofiwch, efallai mai cael mwy o orsafoedd trydan bychan fel hon yw rhan o'r ateb i broblem cyflenwi ynni rhagor nac ynni niwclear.

Yr ail broblem ydi rhywbeth sy'n digwydd unwaith y flwyddyn yn unig, a diolch i'r drefn am hynny oherwydd mae'n beth ofnadwy iawn, iawn.

Tybed mai dim ond y mawrion yn eu plastai a'u cestyll oedd yn cael eu poeni gan ysbryd ac nad oedd hi'n broblem o gwbwl i'r bobl gyffredin roeddwn i i'w gwasanaethu?

Ar ôl yr ymarfer neithiwr ar gyfer y gêm ragbrofol yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Wcrain nos fory mae gan y rheolwr Mark Hughes ambell broblem oherwydd anafiadau yn y garfan.

Mae gan Jac broblem - y mae wedi colli ei het bêl-droed.

Daeth troseddu yn broblem fawr.

Fe ddywedodd - - y dylid edrych ar y broblem o atebolrwydd fel problem o werthuso gwaith yn hytrach na dilysu.

Er bod hyn yn broblem yn Saesneg hefyd, mae'n waeth yn Gymraeg.

Hefyd mae llawer mwy o ddyfrhau tatw yn digwydd erbyn hyn ac ni fyddai llawn gymaint o broblem hefo sychdwr.

Dim ond un ateb sydd i'r broblem - galwch y fyddin!

Dyna broblem neu ormes y Cymydog Mawr, er enghraifft.

Yn ôl Syr Paul Condon mae'r broblem yn aros, ac mae'n fygythiad gwirioneddol i'r gêm.

Wrth gytuno'n llwyr â hynny, fe ddywedwn innau y bydd y broblem hon yn un o'r pynciau pwysicaf a fydd yn wynebu Huw Jones wrth iddo gamu i'w swydd newydd.

Drwy gydol y blynyddoedd hyn yr oedd sir Fynwy yng nghanol tanbeidrwydd y dadlau; a hynny, nid yn unig oherwydd maint y boblogaeth, ei symudolrwydd a'r broblem fawr o ddarparu addysg ar ei chyfer, ond hefyd oherwydd presenoldeb carfan gref o weinidogion amlwg a llafar iawn eu barn.

Y broblem, wrth gwrs, ydi nad yw'r cyfryw Fwrdd wedi gwneud dim dros y Gymraeg.

"Rydyn ni wedi cael ymateb arbennig o dda o'r ysgolion, a does dim dwywaith amdani, mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r plant os ydym am ddatrys y broblem o ysbwriel a diogelu ein cefn gwlad", meddai'r Cynghorydd Tony Hughes.

Mae rhwd yn broblem.