Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brodorol

brodorol

Bu defnydd brodorol a lleol hefyd: C.U. Burn, cyfres am ddau frawd yn rhedeg amlosgfa.

Mwy poblogaidd eto oedd rhai o'r cyfieithiadau o'r Beibl a wnaed i ieithoedd brodorol yn y cyfnod hwn, yn enwedig y rheiny oedd ar gael yn Almaeneg ac Eidaleg.

Cyfieithu o'r Lladin i'r ieithoedd brodorol, a'r Gymraeg yn eu plith, oedd y ffordd bwysicaf o gyflawni hyn oll, cyfieithu, fel y dywedodd Thomas Wiliems, 'pob celfyddyt arbenic or gywoethoc Latiniaith yr geindec Gymraec einom'.

Rhoddwyd hwb sylweddol i hyder dysgwyr a chynyddwyd y cyfleoedd iddynt hwy a siaradwyr brodorol i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd-bob-dydd.

Ond y nef a helpo'r milwyr a geisiai foddio eu chwant trwy gyfathrach â'r merched brodorol, ac o ganlyniad eu cael eu hunain mewn 'anhawster arbennig' ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Proses ddamweiniol bron oedd hi, ac yn wir, parhaodd Lladin yn ei bri fel cyfrwng mynegiant ochr-yn-ochr a'r cynnydd yn yr ieithoedd brodorol, o leiaf mewn rhai meysydd.

A hyd yn oed pe bai'r testun yn hŷn nag y gallwn ar hyn o bryd ei brofi, mae'r ffaith nad oedd copi%wyr diweddarach wedi moderneiddio nac addasu'r hanes, drwy gydblethu'r cnewyllyn brodorol ag elfennau o draddodiad arall, yn awgrymu'n gryf yr ystyrid y chwedl Gymraeg am Drystan ac Esyllt fel stori wahanol, mewn rhyw fodd, i hanesion eraill a berthynai i'r un un byd Arthuraidd, a bod y chwedl wedi ci thrin yn wahanol o'r herwydd.

Dros amser, fe drodd dyneiddiaeth o fod yn fudiad a nodweddid yn bennaf gan barch at ddysg yr Hen Fyd, mudiad a wreiddid yn arbennig yn y diwylliant Lladin clasurol, i fod yn fudiad a oedd yn hybu'r ieithoedd brodorol, ac, i raddau llai, ddiwylliant brodorol yn ogystal.

Gwelir y duedd hon ar waith yn y deunydd Arthuraidd yn arbennig, lle gellid yn hawdd greu dolen gyswllt rhwng y traddodiadau estron a'r rhai brodorol, oherwydd bod cymeriadau ag enwau tebyg iawn yn profi anturiaethau tebyg, boed eu hiaith yn Gymraeg neu Ffrangeg.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Nid ymwrthod yn ymwybodol a'r diwylliant Lladinaidd er mwyn hybu'r diwylliant brodorol a wnaed.

Ac felly hawdd oedd iddo gredu mai gwaith da oedd distrywio'r diwylliannau bach - fel y gwnaeth Sbaen yn Ne America ac fel y gwnaeth yr ymfudwyr i ogledd America â diwylliannau'r Indiaid brodorol.

O'n holl goed brodorol y dderwen sy'n byw hwyaf, a hon hefyd sy'n cynnau yr amrywiaeth mwyaf o wahanol rywogaethau o organebau.

Pan ddaeth Y Cymry, diolch i ysgolion Griffith Jones, yn bobl lythrennog, yr oedd y Gwyddelod, fel y Llydawyr a'r Sgotiaid Gaeleg, yn anllythrennog; yng Nghernyw ac Ynys Manaw yr oedd yr ieithoedd brodorol wedi marw neu ar farw.

Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Agor meysydd dysg - dyna sylfaen dyneiddiaeth, a dyna yn y pen draw a barodd orseddu'r ieithoedd brodorol.

Yn ddi-ddadl 'roedd cryn anesmwythyd ymhlith y gweithwyr brodorol yn Sylhet yr adeg yma.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Yr oeddynt mor anhepgor yn eu golwg hwy â'r nyrsus eu hunain gan mai eu pwrpas oedd cadw'r milwyr rhag cyfathrachu â'r merched brodorol yr oedd clefydau gwenerol mor gyffredin yn eu mysg.

Mae'r mwyafrif o'n coed brodorol, a'r dderwen yn eu plith, yn blanhigion blodeuol, ond nid yw eu blodau yn amlwg.

Ystyrid yr ieithoedd brodorol yn rhy ddiffygiol mewn dysg a disgyblaeth i'w defnyddio ar gyfer gwneud trosiadau boddhaol ohono.

Sonnid amdano yn Arabeg glasurol llwyth y gof, ac mewn Berbereg hynafol a brodorol hyd eithafoedd y Sahara.

Ym maes cerddoriaeth, ar y llaw arall, yr oedd i'r Eglwys ei chystadleuydd yn y traddodiad brodorol.

Wrth ddarllen Ystorya Trystan yr argraff a gawn yw fod yma ddeunydd brodorol, wedi ei gyflwyno mewn mewn cywair ac arddull hollol Gymreig.

Ond pe gofynnech iddo ymhle mae'r Wythi%en Fawr ond odid mai eich cyfeirio i bentref Brynaman a wnâi, gan restru enwau tyddynnod a mân ffermydd fel Pen-y-graig Glynbeudy, Cwm-garw a'r Croffte, oblegid teulu a wnaeth gyfraniad sylweddol i'r diwylliant brodorol a chenedlaethol yw'r Wythi%en Fawr.

Egwyddor arall o gryn bwys, sy'n deillio o'r holl drafodaethau, yw hawliau'r llwythau brodorol.

Mae hyn yn siŵr o fod yn gywir i raddau, ond yr wyf yn credu fod yna reswm arall hefyd, sef cryfder y traddodiad brodorol Cymraeg ei hun.