Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

broffesiynol

broffesiynol

Bydd pobl sy'n gamblo'n broffesiynol yn ymwybodol iawn o lwc ac anlwc ac oherwydd hynny yn ofergoelus iawn.

'Ond gêm broffesiynol yw criced ac os yw'r bowlwyr yn meddwl bod batiwr allan maen nhw'n mynd i ofyn.

Maen nhw'n broffesiynol eu hagwedd a dydyn nhw'n rhoi dim byd i ffwrdd ac ynan gobeithio dwyn gôl - a rydan ni wedi gweld hyn droeon.

Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.

'Ond falle bod e'n arwydd o'r pwyse sy ar y swydd bellach â'r gêm yn broffesiynol.

'Rydyn ni'n teimlo bod ni'n symud 'mlaen fel clwb - rydyn ni'n broffesiynol iawn.

Enillodd 48 o gapiau rhyngwladol a bu'n chwarae'n broffesiynol nes yn 50 oed gan sgorio dros 500 o weithiau.

roedd y gweithgor yn argymell parhau gyda'r canllawiau asesu, gyda rhybudd i athrawon eu dehongli yn ôl eu barn broffesiynol.

gallasai syr william preece fod wedi dweud llawer o hanes david hughes wrth robert griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn llundain.

Roedd rhai o'i phobl, er yn broffesiynol a deallus, yn esgeulus ar y gorau, ond gyda'r Nadolig a'i barti%on a'i gymdeithasu di-ben-draw i ddyblu a threblu'r gwaith, fe gymerai sawl wythnos iddi ddod i drefn eto.

Cysodir rhai yn broffesiynol, defnyddir prosesyddion geiriau gan eraill tra gwelir rhai yn dal i ddefnyddio amrywiol deipiaduron.

Nid dechrau o'r dechrau yr şm o hyd wrth ddatblygu'r grefft o ddysgu ail-iaith, ond manteisio ar yr enillion a gafwyd wrth astudio didachteg iaith ac ieithyddiaeth gymwysedig yn broffesiynol.

Os yw gyrru car ar y ffordd yn beryglus, cymaint mwy felly yw rasio ceir yn broffesiynol.

Mae hyn yn debyg o dorri calon y rhai sydd heb lawer o amser nac arian, ac mae'n un o'r ffactorau sy'n gwahaniaethu'r agwedd broffesiynol at y pwnc oddi wrth yr agwedd mai hobi archaeolegol ydyw.

Mae Sefydliad y Merched Sant y Brîd yn ffodus i gael ymhlith yr aelodau dwy sy'n trefnu blodau yn broffesiynol.

Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.

Ar y cyfan, mae'n nofelwyr hanes yn frid i'w edmygu, gan mor broffesiynol ydynt yn eu hagwedd at eu gwaith.

Ychydig iawn ar wahan i ymweliadau a'r theatr broffesiynol ym Manceinion.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Fe gofnodir y dystiolaeth am gyraeddiadau'r myfyrwyr yn y dogfennau Cofnodi Cyrhaeddiad Presenoldeb a Phrydlondeb Y mae ymchwil wedi dangos fod agwedd broffesiynol ar ran y staff, gan gynnwys prydlondeb yn ffactor bwysig yn llwyddiant ac effeithlonrwydd ysgol.

Heblaw am y crefftwyr o bob math a'r rhai oedd yn cadw siopau yr oedd yna nifer o bobl broffesiynol hefyd yn naturiol - athrawon a bancwyr ac ati.

'Yn y pendraw mae cyfrifoldeb ar y chwaraewyr yn yr oes broffesiynol yma.

Gwadu hynny a wnaeth hi gan ychwanegu y byddai'n derbyn ei harian dipyn yn haws o hynny ymlaen - roedd yn mynd i fod yn butain broffesiynol.

Wedi dweud hyn i gyd, y mae'n amlwg ein bod ni yng Nghymru erbyn hyn wedi llwyddo i gyrraedd lefel o broffesiynol rwydd technegol sy'n ein galluogi i fentro arbrofi rhywfaint, ac sy'n mynnu ein bod yn archwilio dulliau eraill o feddwl am ffilm, rhag i ni fynd i rigol, a ninnau ond yn ein babandod cyn belled ag y mae ffilm yn y cwestiwn.

O fewn mis i'w buddugoliaeth, a hithau wedi derbyn cynigion i fynd i ganu'n broffesiynol, cychwynodd yr Ail Ryfel Byd.

Yn ail gofynnwyd iddo hybu cysylltiadau gwell rhwng yr Eisteddfod a'r Gymdeithas Ddrama a'r cwmni%au, boed amatur neu broffesiynol, oedd yn gweithio yn y Gymraeg, Ac, yn olaf, ei gyfrifoldeb ef fyddai cydlynu a datblygu gweithgareddau drama yn yr ardaloedd hynny oedd yn gwahodd yr Eisteddfod.

Dyw'r boi ddim yn yrrwr da iawn - sy'n beth od ac yntau'n amlwg yn broffesiynol.

Wrth raddio, neu adeiladu gwers ar wers ar wers fel y bo'r cwbl yn gydlynol ddatblygol, yn hytrach na gwibio o un pwnc ieithyddol i'r llall, gellir gwneud hynny'n broffesiynol neu weithio'n amaturaidd.