Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brofiadol

brofiadol

Fel amryw o ferched Methodistaidd Daniel Owen, mae Gwen yn medru ei rhoi hi i'r sawl sy'n gwrthwynebu crefydd brofiadol y seiat.

Mae hi'n gantores brofiadol sydd wedi ymddangos ar lwyfannu cyngerdd gan gynnwys cyfres o gyngherddau yn y Klavierfest Ruhr 2000 - bydd hi'n ôl yno eleni eto.

Campiodd y gwynt i chwythu'n ffyrnicach o'r de-orllewin, a sylwodd y rheini o bobl brofiadol ar y bwrdd fod y llong yn gorfod newid ei chwrs i yrru yn wyneb y gwynt.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Hanes carwriaeth sydd yma ond carwriaeth sy'n llawn poen a chreulondeb a'r hanes wedi'i adrodd gan awdures brofiadol, Shoned Wyn Jones.

'Doedd Yang ddim yn brofiadol o bell ffordd, ond hi gipiodd wobr fu'n gychwyn gyrfa ddiglaer a gwahoddiad i astudio yn y Juilliard School yn Efrog Newydd.

Dylai fod yn destun rhywfaint o bryder i Lafur i wleidydd mor brofiadol gael ei daflu oddi ar ei echel mor hawdd.

Maen focsiwr addawol iawn a wedi cyd-weithio gyda dau brofiadol a llwyddiannus iawn yn y gamp.

Oherwydd hynny gallai ddeall a chyfarwyddo'r gŵr ieuanc a fyddai'n ymladd â themtasiynau ac amheuon; gallai gydymdeimlo â'r trafferthus a'r helbulus, cyd-ddwyn â'r anwybodus os byddai ynddo beth daioni, a chydgyfranogi o lawenydd a thristwch ysbrydol yr hen bobl brofiadol.