Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brotestannaidd

brotestannaidd

Yr oedd y ffrae hon braidd yn drist oherwydd yr oedd y teulu'n prysur ymsefydlu fel prif noddwyr y blaid brotestannaidd fwyaf blaengar yn Nyfed.

Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.

'Roedd ymyl dalennau Beibl Genefa yn llawn o nodiadau esboniadol, Calfinaidd eu diwinyddiaeth a gwrthglerigol eu naws, ac fe fuont yn gryn dramgwydd i'r awdurdodau eglwysig pan geisiwyd ym mlynyddoedd cynnar Elisabeth I sefydlu trefn eglwysig Brotestannaidd y gallai Pabydd ei derbyn heb dreisio gormod ar ei gydwybod.

Oni bai fod esgobion yn gwneud eu gorau glas i ddyrchafu'r drefn brotestannaidd yn ei holl fanylion, byddai polisi%au crefyddol y llywodraeth yn fethiant.

Ar ei dechrau yr oedd y deyrnas yn babyddol ac ar ei diwedd yn brotestannaidd.